Radio a phinnau
Mynd â'ch rhaglennu micro:bit i'r lefel nesaf gan ddefnyddio radio a phinnau
Gall eich micro:bit gyfathrebu'n ddi-wifr â micro:bits eraill gan ddefnyddio radio. Bydd y prosiectau a'r fideos hyn yn eich rhoi ar ben ffordd i ddefnyddio radio i anfon negeseuon a gwneud gemau sawl chwaraewr. Byddwch hefyd yn dysgu sut y gallwch ddefnyddio'ch cysylltiadau pin micro:bit i wneud sain a chreu eich gitâr micro:bit eich hun.
Mae pob set o brosiectau wedi'u llunio i gynyddu'ch dealltwriaeth a'ch hyder yn raddol. Yn set 1 byddwch yn dysgu am radio, yn set 2 byddwch yn gweithio gyda'r pinnau i ychwanegu switshis sy'n sensitif i gyffwrdd a chysylltu clustffonau:
Set 1: Negeseuon radio
Yn y dilyniant hwn o brosiectau, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio nodwedd radio'r micro:bit i rannu caredigrwydd, chwarae gêm gyda ffrind a rhannu cyfrinachau:
Set 2: Pinnau, synwyryddion cyffwrdd a seiniau
Gwneud eich gitâr micro:bit eich hun â'r clipiau, clustffonau a chardfwrdd. Bydd y dilyniant hwn o brosiectau yn eich arwain cam wrth gam drwy greu a rhaglennu gitâr micro:bit. Os oes gennych y micro:bit newydd â seinydd parod, nid oes angen i chi gysylltu clustffonau hyd yn oed.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.