Synwyryddion
Dysgu sut i raglennu'ch micro:bit ifesur eich amgylchedd gan ddefnyddio synwyryddion parod
Yn adeiladu ar beth rydych wedi'i ddysgu yn y setiau LEDs a botymau, bydd y prosiectau a'r fideos hyn yn dangos i chi sut i raglennu'ch micro:bit i synhwyrosymudiad, golau, tymheredd a meysydd magnetig.
Mae pob set o brosiectau wedi'u llunio i gynyddu'ch dealltwriaeth a'ch hyder yn raddol. Gallwch ddewis un neu weithio drwyddynt i gyd i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddefnyddio synwyryddion micro:bit.
Set 1: Gemau mesurydd cyflymiad
Yn y dilyniant hwn o brosiectau, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio'r mesurydd cyflymiad a chreu dis a gêm â'ch micro:bit.
Set 2: Rhifyddion camau mesurydd cyflymiad
Dysgu sut i ddefnyddio'r mesurydd cyflymiad i raglennu rhifyddion camau sy'n fwyfwy soffistigedig.
Set 3: Tymheredd
Dysgu sut i drawsnewid eich micro:bit yn thermomedr.
Set 4: Golau
Darganfod sut i ddefnyddio synhwyrydd parod y micro:bit, gan ddechrau gyda'r prosiect 'Synhwyrydd golau haul' rydym wedi'i weld yn y set LEDs a botymau.
Set 5: Cwmpawd
Troi eich micro:bit yn gwmpawd a dysgu sut i'w ddefnyddio i synhwyro os oes magnetau'n agos
Dysgu mwy am y cwmpawd ar y micro:bit
Set 6: Logo cyffwrdd - newydd
Mae gan y micro:bit newydd â sain logo aur ar y blaen sy'n gweithio fel synhwyrydd cyffwrdd. Mae'r prosiectau hyn yn dangos i chi sut y gallwch ei ddefnyddio fel mewnbwn ychwanegol.
Dysgu mwy am y logo cyffwrdd ar y micro:bit
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.