Gosod eich micro:bit
Mae dysgu codio yn syml iawn â'ch BBC micro:bit
Rhaglennu
Rydych yn dweud wrth gyfrifiaduron fel y micro:bit beth i'w wneud drwy roi cyfarwyddiadau iddynt. Gelwir setiau o gyfarwyddiadau ar gyfer cyfrifiaduron yn rhaglenni. Mae rhaglenni wedi'u hysgrifennu mewn cod, iaith rydych chi a'r cyfrifiadur yn gallu ei deall.
Gallwch raglennu'ch micro:bit yn y golygydd blociau MakeCode ar-lein neu olygydd testun Python. Mae ein tudalen Dechrau codio yn eich helpu i ddewis yr un sy'n gywir i chi.
Bydd arnoch angen naill ai:
- cyfrifiadur â phorwr gwe a mynediad at y rhyngrwyd
neu - ffôn neu dabled a'n ap micro:bit am ddim ar gyfer codio MakeCode ar ddyfeisiau symudol Android neu iOS (iPhone ac iPad)
Pan fyddwch wedi ysgrifennu'ch cod, byddwch eisiau cysylltu â'r micro:bit a trosglwyddo eich cod iddo.
Cysylltu
Cysylltu eich micro:bit â'ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol.
- Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur, bydd angen cebl USB micro arnoch i gysylltu eich micro:bit â soced USB eich cyfrifiadur
- Os ydych yn defnyddio ffôn neu dabled, defnyddiwch Bluetooth i gysylltu â'ch micro:bit yn ddi-wifr
Trosglwyddo o gyfrifiadur
Gelwir trosglwyddo eich rhaglen i'ch micro:bit yn fflachio oherwydd ei fod yn copïo eich rhaglen i gof fflach y micro:bit.
Bydd eich micro:bit yn oedi a bydd yr LED melyn ar y cefn yn fflachio wrth i'ch rhaglen gael ei throsglwyddo. Unwaith y bydd wedi ei chopïo, bydd eich rhaglen yn dechrau rhedeg ar eich micro:bit.
Mae dwy ffordd o drosglwyddo'ch rhaglen o gyfrifiadur:
- Mae llusgo a gollwng fel copïo ffeil a lawrlwythwyd o'ch cyfrifiadur i gof bach USB. Mae'n gweithio ar unrhyw gyfrifiadur.
- Mae fflachio'n uniongyrchol yn anfon eich rhaglen o'r golygydd cod yn uniongyrchol i'ch micro:bit. Mae'n gweithio ar unrhyw gyfrifiadur mewn dau borwr gwe poblogaidd.
Llusgo a gollwng
Pan fyddwch yn plygio'r micro:bit i mewn i soced USB eich cyfrifiadur, bydd yn ymddangos ar eich cyfrifiadur fel cof bach USB o'r enw MICROBIT.
Lawrlwythwch eich rhaglen fel ffeil .hex o'r golygydd cod i'ch cyfrifiadur, fel arfer i'ch ffolder lawrlwythiadau. Wedyn, llusgwch a gollyngwch y ffeil .hex i yriant MICROBIT.
Ar ôl i chi drosglwyddo'ch ffeil .hex, bydd y gyriant MICROBIT yn datgysylltu ac yn ailgysylltu wrth i'r micro:bit ailosod. Ni fydd y ffeil .hex yn cael ei rhestru ar yriant MICROBIT ar ôl hyn. Disgwylir i hyn ddigwydd. Nid dyfais storio fflach yw eich micro:bit, ond mae eich cyfrifiadur yn ei ddangos fel un i'w gwneud hi'n hawdd trosglwyddo ffeiliau .hex.
Mae'r fideos isod yn dangos i chi sut mae'n gweithio. Dewiswch eich math o gyfrifiadur (Windows, Mac, Chromebook neu Linux/Raspberry Pi) i weld sut y bydd yn gweithio i chi:
Fflachio'n uniongyrchol
Gallwch anfon rhaglenni'n uniongyrchol o'r golygyddion cod ar-lein i'ch micro:bit heb fod angen lawrlwytho a chopïo ffeil.hex. Mae'n broses gyflym a hawdd.
I ddefnyddio fflachio'n uniongyrchol, bydd angen i chi ddefnyddio porwr gwe Chrome neu Edge diweddar sy'n cefnogi webUSB.
Efallai bydd angen i chi ddiweddaru eich cadarnwedd micro:bit hefyd os cawsoch y ddyfais amser hir yn ôl. Dysgu mwy ar ein tudalen cadarnwedd.
Noder: mae fflachio'n uniongyrchol yn broses gyflym a hawdd, ac mae'n wych ar gyfer dadfygio, ond nid yw'n cadw copi o'ch rhaglen ar eich cyfrifiadur. Os yw cadw copi o'ch cod ar eich cyfrifiadur neu yriannau rhwydwaith lleol yn bwysig i chi, er enghraifft ar gyfer asesu gwaith myfyrwyr, efallai yr hoffech ddefnyddio llusgo a gollwng yn lle hynny, neu atgoffa myfyrwyr i lawrlwytho a chadw ffeil.hex pan fyddant wedi cwblhau eu prosiect.
Fflachio'n uniongyrchol o MakeCode
Fflachio'n uniongyrchol o Python
Trosglwyddo o ap symudol
I ddechrau arni ar ffôn symudol, bydd angen i chi lawrlwytho'r ap micro:bit am ddim i'ch ffôn neu dabled a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Mae'r apiau'n defnyddio Bluetooth i drosglwyddo'ch cod i'ch micro:bit, felly mae angen i chi alluogi Bluetooth ar eich ffôn neu dabled.
Mae'r fideos hyn yn eich helpu i ddeall sut mae'r apiau symudol yn gweithio gyda'ch micro:bit.
iOS
Android
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.