Skip to content

Nodweddion: Allbwn sain

Nodweddion

Allbwn sain

Darganfod sut i ddefnyddio clustffonau a seinydd parod y micro:bit newydd i wneud i'ch creadigaethau ganu

Gall y micro:bit wneud seiniau, chwarae tonau ac mae gan y micro:bit newydd seinydd parod i'w gwneud hi hyd yn oed yn haws fyth i wneud prosiectau mynegiannol a defnyddiol.

Bydd unrhyw brosiect sain micro:bit yn gweithio gyda'r seinydd, ond gyda'r micro:bit newydd gallwch hefyd fynegi'ch hun â seiniau newydd: gwneud i'ch micro:bit biffian chwerthin, eich cyfarch neu roi gwybod i chi pan fydd yn gysglyd neu'n drist.

Gallwch hefyd dawelu'r seinydd a bydd sain yn parhau i ddod allan o'r pinnau fel y gallwch barhau i fwynhau cerddoriaeth micro:bit ar glustffonau sy'n gysylltiedig â GND a phin 0. Yn MakeCode, defnyddiwch y bloc cerddoriaeth 'diffodd y seinydd parod'.

Helpu i ymarfer eich cerddoriaeth

Dod o hyd i'r Gogledd drwy sain a golau

Archwilio prosiectau sain
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.