Skip to content

Gweithgaredd

Bathodyn emosiwn cyffwrdd

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED, Logo cyffwrdd | Haniaethu, Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Ychwanegu mynegiad arall at brosiect bathodyn emosiwn gan ddefnyddio synhwyrydd logo cyffwrdd newydd y micro:bit fel botwm ychwanegol

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut mae cyfrifiaduron yn defnyddio mewnbynnau, eu prosesu gan ddefnyddio cod a chreu gwahanol allbynnau
  • Sut i ddefnyddio logo cyffwrdd newydd y micro:bit fel mewnbwn botwm i sbarduno allbynnau

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen hon yn synhwyro os ydych yn gwasgu botwm A ac yn dangos eicon wyneb hapus ar allbwn y dangosydd LED.
  • Mae'n synhwyro os ydych yn gwasgu botwm B ac yn dangos wyneb trist ar y dangosydd LED.
  • Os ydych yn cyffwrdd â'r logo aur ar flaen y micro:bit newydd, bydd y rhaglen yn synhwyro'ch bys ac yn dangos wyneb wedi'i synnu ar y LEDs.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit newydd â sain (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if button_a.is_pressed():
5        display.show(Image.HAPPY)
6    if button_b.is_pressed():
7        display.show(Image.SAD)
8    if pin_logo.is_touched():
9        display.show(Image.SURPRISED)

Cam 3: Gwella

  • Newid yr eiconau sy'n ymddangos, neu lunio eich un eich hun i ddangos gwahanol emosiynau.
  • Creu dilyniant wedi'i animeiddio o wynebau pan fyddwch yn gwasgu pob botwm.
  • Ychwanegu gwahanol synau sy'n cyd-fynd â phob emosiwn.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.