Skip to content

Gweithgaredd

Mesurydd ynni golau

Uwch | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED, Synhwyrydd golau | 13 Hinsawdd, Mewnbwn/allbwn, Newidynnau, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Y cyntaf o dri phrosiect i ddysgu mwy am ddefnyddio ynni yn eich cartref neu'ch ysgol gan fesur faint o olau rydych yn ei ddefnyddio.

Bydd y mesurydd golau hwn yn eich helpu i fesur sut mae lefelau golau'n amrywio o'ch cwmpas pan fydd goleuadau'n cael eu troi ymlaen a'u diffodd a dod o hyd i'r lleoliad gorau i osod yr amserydd golau yn y prosiect nesaf.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i gymryd darlleniadau o synwyryddion y micro:bit a'u cadw mewn newidyn er mwyn gweld yr un darlleniad dro ar ôl tro hyd yn oed ar ôl i amodau newid
  • Dod o hyd i leoliadau ar gyfer cofnodi data amgylcheddol dibynadwy

Sut i'w ddefnyddio

  • Gyda'r goleuadau wedi'u diffodd, gosodwch eich micro:bit lle rydych eisiau cymryd darlleniad y golau, a gwasgu botwm A.
  • Symudwch y micro:bit er mwyn gweld ei ddangosydd yn hawdd, a gwasgu botwm B i weld darlleniad y lefel golau. Bydd yn rhif rhwng 0 (tywyll) a 255 (y golau dwysaf y gall y micro:bit ei fesur).
  • Gallwch wasgu B eto os nad ydych yn sicr o'r darlleniad.
  • Troi'r goleuadau ymlaen a gwneud mesuriad arall drwy wasgu A eto, wedyn gwasgu botwm B i ddarllen y rhif.
  • Dod o hyd i le lle mae gwahaniaeth mawr rhwng y darlleniadau pan fydd y goleuadau wedi'u diffodd ac ymlaen. I ffwrdd o ffenestr lle gallai golau dydd ddod i mewn, ac yn agosach at y ffynhonnell golau trydan fyddai orau. Byddai cwpwrdd yn ddelfrydol, os oes ganddo oleuadau trydan.
  • Cymryd ychydig o ddarlleniadau a chanfod cyfartaledd y darlleniadau pan fydd y golau yn cael ei droi ymlaen. Bydd angen y rhif hwn arnoch ar gyfer y prosiect nesaf, yr Amserydd ynni golau.

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen yn defnyddio newidyn a elwir yn reading i gadw lefel y golau. Mae'n ei osod ar y dechrau a phryd bynnag rydych yn gwasgu botwm A.
  • Mae cadw darlleniad y synhwyrydd golau mewn newidyn, yn hytrach na'i ddangos yn syth, yn syniad da oherwydd ei bod yn golygu gallwch weld y darlleniad sawl tro eto pan fyddwch yn ei nodi.
  • Mae defnyddio newidyn hefyd yn golygu gallwch gymryd darlleniad golau mewn man lle gallai fod yn anodd gweld y dangosydd a gweld y mesuriad golau mewn man mwy cyfleus.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (argymhellir)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3display.show('M')
4reading = display.read_light_level()
5sleep(100)
6
7while True:
8    if button_a.was_pressed():
9        # take a light measurement and store it
10        reading = display.read_light_level()
11        display.show(Image.DIAMOND_SMALL)
12        sleep(400)
13        display.show(Image.DIAMOND)
14        sleep(400+500)
15        display.show('M')
16
17    elif button_b.was_pressed():
18        # display the stored light measurement
19        display.clear()
20        display.scroll(reading)
21        sleep(500)
22        display.show('M')
23

Cam 3: Gwella

  • Addasu'r cod i gyfrifo darlleniad cyfartalog i chi.
  • Ychwanegu ail micro:bit a swyddogaeth radio i ganiatáu darllen lefelau golau o bell.
  • Os oes gennych fynediad at fesurydd golau sy'n mesur lefelau golau mewn unedau eraill, cymharu darlleniadau'r micro:bit ag ef.
  • Defnyddio darlleniadau'r mesurydd golau i wneud amserydd i gofnodi pa mor hir y gadawir goleuadau ymlaen.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.