Skip to content

Gweithgaredd

Larwm drws syml

Canolradd | MakeCode, Python | Botymau, Cwmpawd, Dangosydd LED | Dewis, Gweithredwyr perthynol, Magneteg

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

A yw rhywun wedi bod yn eich ystafell? Gyda micro:bit, pecyn batri a magned, gallwch wneud larwm i'ch rhybuddio am dresbaswyr llechwraidd...

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Yn y prosiect hwn, byddwn yn gwneud larwm drws sy'n gweithio'n union fel synhwyrydd drws go iawn mewn system ddiogelwch cartref.
  • Mae gan eich micro:bit synhwyrydd cwmpawd parod a elwir yn fagnetomedr. Gallwch ei ddefnyddio i fesur maes magnetig y Ddaear fel cwmpawd - neu i synhwyro cryfder meysydd magnetig yn fwy agos atoch!
  • Rhoi magned yng nghornel drws a micro:bit gyda rhaglen y larwm drws yn agos ato ar ffrâm y drws fel yn y fideo.
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio synhwyrydd mewnbwn cwmpawd (magnetomedr) y micro:bit a dolen am byth i barhau i fesur cryfder y maes magnetig.
  • Mae'n defnyddio dewis er mwyn dangos wyneb crac ar y dangosydd LED pan fydd yn is na lefel benodol (y trothwy). Mae hyn yn golygu bod y magned wedi symud oddi wrth y micro:bit - pan oedd y drws ar agor - felly mae'n bosibl bod rhywun wedi bod yn eich ystafell!
  • Bydd gwasgu botwm A yn dangos y darlleniad grym magnetig presennol. Defnyddio hyn i benderfynu pa rif trothwy i'w ddefnyddio drwy gymryd darlleniadau gyda'r drws ar agor ac ar gau. Defnyddiom 200 yn ein henghraifft, ond mae hyn yn dibynnu ar gryfder eich magned ac a oes unrhyw feysydd magnetig eraill gerllaw. Mae'r fideo codio uchod yn dangos i chi sut i wneud hyn.
  • Gwasgu botwm A i glirio'r wyneb crac ac ailosod y larwm.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit
  • Golygydd cod ar-lein MakeCode
  • pecyn batri
  • magned
  • rhywbeth i osod y magned, micro:bit a phecyn batri ar y drws ac ar ffrâm y drws

Cam 2: Codio

1# Python uses nanoteslas to measure magnetism.
2# Experiment with different numbers depending on the
3# strength of your magnet, which you can read by 
4# pressing button A.
5
6from microbit import *
7
8while True:
9    if button_a.was_pressed():
10        display.scroll(compass.get_field_strength())
11    if compass.get_field_strength() < 200000:
12        display.show(Image.ANGRY)

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegu seinydd a larwm clywadwy
  • Defnyddio newidyn i gyfrif y nifer o weithiau mae'ch drws wedi cael ei agor - bydd angen i chi ychwanegu cod i synhwyro pan fydd wedi'i agor a'i gau
  • Creu amserydd i fesur am ba mor hir mae drws wedi bod ar agor

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.