Skip to content

Gweithgaredd

Larwm drws radio

Uwch | MakeCode, Python | Cwmpawd, Dangosydd LED, Radio | Cyfathrebu, Dewis, Gweithredwyr perthynol, Magneteg, Synwyryddion, Tonnau radio

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Larwm di-wifr i'ch rhybuddio pan fydd rhywun yn agor drws – neu'n ei adael ar agor.

magned ar ochr drws gerllaw micro:bit ar ffrâm y drws

Sut mae'n gweithio

  • Rhoi magnet yng nghornel drws a micro:bit gyda'r rhaglen synhwyro yn agos ato ar ffrâm y drws fel yn y llun.
  • Mae'r rhaglen synhwyro yn defnyddio synhwyrydd mewnbwn cwmpawd (magnetomedr) y micro:bit a dolen i fesur cryfder y maes magnetig bob 2 eiliad. Mae'n defnyddio dewis er mwyn anfon signal radio 'drws ar agor' pan fydd yn is na lefel benodol (y trothwy). Os yw'r darlleniad magneteg yn uwch na'r trothwy, bydd yn anfon 'drws ar gau'.
  • Pan fyddwch yn defnyddio'r synhwyrydd cwmpawd am y tro cyntaf, bydd yn rhaid i chi ei raddnodi wrth chwarae gêm i lenwi'r sgrin gyda dotiau, megis graddnodi cwmpawd ffôn symudol.
  • Mae'r micro:bit larwm yn dangos tic ar ei allbwn dangosydd LED pan fydd yn derbyn 'drws ar gau'. Pan fydd yn derbyn neges radio 'drws ar agor', bydd yn dangos croes ac yn chwarae larwm clywadwy.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit ac o leiaf 1 pecyn batri
  • magned
  • ychydig o blu-tack neu ddeunydd tebyg i roi magned ar ddrws a micro:bit ar ffrâm drws
  • clustffonau, seiniwr neu seinydd opsiynol a cheblau clipiau crocodeil i'w cysylltu

Cam 2: Codio

Synhwyrydd / trosglwyddydd:

Larwm / derbynnydd:

Cam 3: Gwella

  • Gwasgu botwm A ar y synhwyrydd i helpu i raddnodi'r rhif trothwy gorau ar gyfer eich magned. I gychwyn, mae wedi'i osod yn 100 microtesla yn MakeCode, yr un gwerth â 100000 nanotesla yn Python.
  • Defnyddio mwy nag un micro:bit i olrhain statws gwahanol ddrysau drwy anfon gwahanol negeseuon radio, e.e. 'drws cefn ar agor'.
  • Defnyddio newidyn i fesur am faint o amser mae drysau'n cael eu gadael ar agor – allai hyn eich helpu i arbed ynni gwresogi?
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.