Skip to content

Gweithgaredd

Larwm symudiad PIR

Uwch | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Pinnau, Radio | Cyfathrebu, Dylunio cynnyrch, Electroneg, Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion, Tonnau radio, Trydan

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Larwm tresbaswr di-wifr yn defnyddio datgelydd symudiad.

Synhwyrydd symudiad PIR wedi'i gysylltu â phinnau 0, 3v a GND ar micro:bit

Sut mae'n gweithio

  • Mae synwyryddion PIR (isgoch goddefol) yn cael eu defnyddio'n gyffredin mewn larymau lladron a systemau goleuo swyddfeydd i ganfod symudiad. Gallwch gysylltu un â phinnau micro:bit (gweler y diagram) i sbarduno larwm pan ganfyddir symudiad.
  • Cysylltu mewnbwn pŵer y synhwyrydd (a allai fod wedi'i labelu'n 'VCC' neu '+3v') â phin 3v y micro:bit, wedyn cysylltu GND (pin Daear) y synhwyrydd â GND y micro:bit. Nesaf, cysylltu allbwn signal ('S') ar y synhwyrydd â phin 0 y micro:bit.
  • Bob eiliad, bydd synhwyrydd y micro:bit yn defnyddio dolen i anfon neges radio i'r larwm. Mae'n defnyddio dewis i anfon y neges 'symudiad' os canfyddir symudiad, neu os na chanfyddir symudiad, mae'n anfon y neges 'llonydd'.
  • Mae'r micro:bit larwm yn dangos eicon unigolyn ar ei allbwn dangosydd LED ac yn canu larwm clywadwy pan fydd symudiad.
  • Efallai bydd angen i chi addasu sensitifrwydd ac amseru'r synhwyrydd gan ddefnyddio sgriwdreifar bach. Gwirio'r ddogfennaeth a ddaeth gyda'ch synhwyrydd i gael manylion.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit a phecynnau batri
  • synhwyrydd PIR (isgoch goddefol) sy'n rhedeg ar 3v a 3 chebl addas i'w gysylltu â micro:bit
  • sgriwdreifar bach i addasu'r synhwyrydd
  • clustffonau, seiniwr neu seinydd opsiynol a cheblau clipiau crocodeil i'w cysylltu â'r micro:bit larwm

Cam 2: Codio

Synhwyrydd / trosglwyddydd:

Larwm / derbynnydd:

Cam 3: Gwella

  • Ni fydd y batris yn para'n hir yn y synhwyrydd gan ei fod yn anfon neges radio bob eiliad hyn yn oed os nad yw'n synhwyro symudiad. Gallwch ei helpu i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon drwy anfon neges yn unig pan fydd yn synhwyro symudiad. Efallai bydd angen i chi addasu rhaglen y larwm hefyd.
  • Ychwanegu mwy o micro:bits synhwyro i olrhain symudiad mewn gwahanol ystafelloedd, gan ddefnyddio negeseuon radio unigryw, e.e. 'symudiad yn y gegin'.
  • Ychwanegu synwyryddion eraill fel y Prosiect larwm golau a'r Prosiect larwm switsh gwasgedd i wneud system larwm wedi'i rhwydweithio.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.