Skip to content

Gweithgaredd

Larwm gwyro syml

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad, Sain | Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud larwm sy'n goleuo ac yn chwarae tôn pan gaiff eich micro:bit ei symud.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Yn y prosiect hwn, byddwch yn gwneud larwm sy'n canu pan fyddwch yn symud eich micro:bit. Gallech ei guddio mewn neu ei roi ar ben rhywbeth gwerthfawr, neu gallech ei roi mewn bag a'i ddefnyddio i'ch atgoffa i wirio bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn mynd allan.
  • Mae gan eich micro:bit fesurydd cyflymiad sy'n mesur grymoedd. Mae'r mesurydd cyflymiad yn canfod ystum ysgwyd ac yn dangos patrwm ar y dangosydd LED.
  • Mae hefyd yn canu alaw rybuddio. I glywed yr alaw, defnyddio'r efelychwr MakeCode neu gysylltu clustffonau â phin 0 a'r GND. Gallwch ddefnyddio seinydd wedi'i fwyhau hefyd.
  • Gwasgu'r botwm ailosod ar gefn eich micro:bit i glirio'r sgrin a'i wneud yn barod i'w ddefnyddio eto.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit
  • Golygydd cod ar-lein MakeCode neu Python
  • pecyn batri
  • seinydd a chlipiau crocodeil opsiynol

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3
4while True:
5    if accelerometer.was_gesture('shake'):
6        display.show(Image.ANGRY)
7        music.play(["G4:4", "A4", "B4", "B4", "B4", "A4", "G4", "F4"])
8        

Cam 3: Gwella

  • Newid eicon y wyneb i'ch llun eich hun, gan ddefnyddio'r bloc 'dangos leds' yn Make Code neu'r Cyfarwyddyd delwedd yn Python.
  • Yn lle'r alaw, defnyddio eich creadigaeth eich hun neu un o'ch hoff donau.
  • Gwneud y larwm yn fwy sensitif drwy ddefnyddio darlleniadau uniongyrchol o'r mesurydd cyflymiad yn lle'r ystum ysgwyd.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.