Skip to content

Gweithgaredd

Dweud cyfrinach wrthyf

Canolradd | MakeCode, Python | Botymau, Radio | Cyfathrebu, Dewis, Tonnau radio

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio swyddogaeth radio'r micro:bit i ateb cwestiynau'n gyfrinachol.

Dau'n rhannu cyfrinachau gan ddefnyddio radio micro:bit

Sut mae'n gweithio

  • Fflachio'r rhaglen hon ar ddau micro:bit. Rydych chi a ffrind yn gofyn cwestiynau i'ch gilydd sydd ag atebion 'ie' neu 'na'.
  • Gwasgu botwm mewnbwn A i anfon neges 'ie' a botwm B i anfon neges 'na'. Bydd tic neu groes yn fflachio ar allbynnau dangosydd LED y ddau micro:bit am hanner eiliad.
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio radio i anfon eich ateb yn gyfrinachol - ni all neb (ac eithrio eich partner) glywed y signal radio.
  • Pan dderbynnir neges radio, bydd y rhaglen yn defnyddio dewis i brofi'r neges: os yw'r neges a dderbyniwyd yn hafal i 'ie', wedyn bydd yn dangos tic ar y dangosydd LED, ond os yw'r neges yn hafal i 'na', wedyn bydd yn dangos croes.
  • Sicrhau bod y ddau micro:bit yn defnyddio'r un rhif grŵp radio – gallwch ddefnyddio unrhyw rif rhwng 0 a 255.
  • Os bydd llawer ohonoch yn defnyddio'r rhaglen hon yn yr un lle, byddwch eisiau sicrhau bod gan bob pâr o bobl eu rhif grŵp radio eu hunain.
  • Cadw rhif eich grŵp radio yn gyfrinachol os nad ydych eisiau i bobl eraill weld eich negeseuon!

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • ffrind a chyfrinach i'w rhannu!

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Dangos gwahanol eiconau neu negeseuon ar gyfer 'ie' a 'na'.
  • Defnyddio ysgwyd, gwyro neu fotymau A a B ar yr un pryd i anfon atebion gwahanol megis 'efallai'.
  • Newid 'ie' a 'na' i 'dot' a 'llinell' ac anfon negeseuon cod Morse.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.