Skip to content

Gweithgaredd

Hwyaden yn telegludo

Dechreuwr | MakeCode, Python | Mesurydd cyflymiad, Radio | Cyfathrebu, Tonnau radio

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud i hwyaden hedfan yn anweladwy drwy'r awyr o un micro:bit i micro:bit arall

Sut mae'n gweithio

  • Fflachio'r rhaglen hon ar ddau micro:bit, ysgwyd un a bydd hwyaden yn ymddangos i deithio drwy hud drwy'r awyr o un micro:bit i micro:bit arall. Ysgwyd y micro:bit arall i'w hanfon yn ôl.
  • Nid yw'n hud mewn gwirionedd. Mae'n defnyddio swyddogaeth radio y micro:bit i anfon data o un micro:bit i micro:bit arall pan fydd y mesurydd cyflymiad yn canfod ystum ysgwyd.
  • Mae'r rhaglen yn gosod y grŵp radio i 23 yn gyntaf. Mae grwpiau fel sianeli ar setiau radio symud a siarad; gallant fod yn rhif rhwng 0 a 255. Nid yw pa rif rydych yn ei ddewis yn bwysig ond mae'n rhaid i micro:bit eich ffrind ddefnyddio'r un rhif grŵp, ac ni ddylai unrhyw un arall gerllaw ddefnyddio'r un grŵp.
  • Pan fyddwch yn ei ysgwyd, bydd yn anfon y gair 'HWYADEN' ar y grŵp radio hwn ac yn clirio'r sgrin. Os bydd un o'r micro:bits yn derbyn neges radio (unrhyw neges radio), bydd eicon hwyaden yn ymddangos ar ei ddangosydd, dylech gael un hwyaden yn weladwy'n unig ar unrhyw adeg.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecynnau batri (opsiynol)
  • ffrind i chwarae gydag ef/hi

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=23)
4radio.on()
5
6while True:
7    message = radio.receive()
8    if message:
9        display.show(Image.DUCK)
10    if accelerometer.was_gesture('shake'):
11        display.clear()
12        radio.send('duck')
13

Cam 3: Gwella

  • Gweld pa mor bell y gallwch fynd gyda hyn yn dal i weithio.
  • Telegludo anifeiliaid eraill. Fyddai angen i chi newid y llun, y neges – neu'r ddau?
  • Beth fydd yn digwydd os bydd mwy na 2 ohonoch yn defnyddio'r un grŵp radio? Sut gallwch gywiro hyn?
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.