Skip to content

Gweithgaredd

Gogledd Cwmpawd

Canolradd | MakeCode, Python | Cwmpawd, Dangosydd LED | Defnyddio cwmpawd, Dewis, Gweithredwyr perthynol, Magneteg, Newidynnau, Rhesymeg Boolean, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Bydd y cwmpawd syml hwn yn dangos i chi pa ffordd yw'r Gogledd.

micro:bit yn dangos N ar gyfer y Gogledd (North) ar ddangosydd LED wrth ymyl cwmpawd sy'n pwyntio i'r Gogledd

Sut mae'n gweithio

  • Mae gan eich micro:bit synhwyrydd cwmpawd a elwir yn magnetomedr sy'n mesur meysydd magnetig. Gall synhwyro maes magnetig y Ddaear ac felly gallwch ei ddefnyddio fel cwmpawd.
  • Pan fyddwch yn defnyddio cwmpawd y micro:bit am y tro cyntaf mae rhaid i chi ei raddnodi. Mae gêm fach yn ymddangos ar y sgrin pan fydd yn rhaid i chi wyro'r micro:bit i oleuo pob LED, wedyn byddwch yn barod i fynd.
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio dolen ddiderfyn (am byth) i barhau i gymryd darlleniadau cwmpawd ac mae'n eu cadw mewn newidyn a elwir yn 'bearing'. Wedyn, mae'n defnyddio dewis: datganiad os... arall i ddangos N ar gyfer y Gogledd (North) ar y dangosydd LED os yw'r cyfeirbwynt yn fwy (>) na 315 gradd neu'n llai na (<) 45. Mae hyn yn golygu y bydd yn dangos i chi lle mae'r Gogledd os yw eich micro:bit yn pwyntio'n fras at y cyfeiriad cywir.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • planed â phegynnau magnetig i sefyll arnynt - er enghraifft, y Ddaear!

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2compass.calibrate()
3
4while True:
5    bearing = compass.heading()
6    if bearing < 45 or bearing > 315:
7        display.show('N')
8    else:
9        display.show(' ')
10

Cam 3: Gwella

  • Gwneud y cwmpawd yn fwy cywir drwy leihau'r ystod o gyfeirbwyntiau: gwneud y rhif 45 yn llai a 315 yn fwy.
  • Ychwanegu pwyntiau eraill at y cwmpawd i ddangos pan fydd y micro:bit yn pwyntio at y Dwyrain, Gorllewin a De.
  • Ychwanegu sŵn fel ei fod yn gwneud sŵn pan fydd yn pwyntio at y Gogledd er mwyn i rywun sydd â nam ar ei golwg allu defnyddio'r cwmpawd.
Rhosyn y cwmpawd yn dangos cyfeirbwyntiau rhifyddol ar gyfer G, D, Dn, Gn, GDdn, DOn (neu N, S, E, W, NE, SW yn Saesneg) ayyb
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.