Skip to content

Gweithgaredd

Helfa drysor

Canolradd | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Radio | Cyfathrebu, Tonnau radio

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio nifer o micro:bits i wneud gêm helfa drysor gorfforol gan ddefnyddio cyfathrebiadau radio.

Micro:bit a map trysor

Sut mae'n gweithio

  • Fel y Prosiect tywysydd curiad calon, mae'n defnyddio dwy raglen wahanol, un i drosglwyddo signalau radio, a'r llall i dderbyn y signalau.
  • Fflachio rhaglen y tywysydd (trosglwyddydd) ar wahanol micro:bits, gan sicrhau eich bod yn newid y newidyn id fel bod pob un yn wahanol. Mae'r tywysyddion yn dangos eu rhif ID am gyfnod byr ar y dangosydd, fel eich bod yn adnabod pob tywysydd yn unigol. Cysylltu pecynnau batri ac wedyn cuddio'r tywysyddion sy'n trosglwyddo eu rhif ID bob 200 milieiliad (0.2 eiliad).
  • Fflachio cod y derbynnydd ar micro:bits ar gyfer yr helwyr trysor. Gellir defnyddio'r un rhaglen hon ar gyfer pob derbynnydd. Pan fyddwch yn mynd yn agos at dywysydd, bydd rhaglen y derbynnydd yn dangos y rhif ID mae'n ei ddarlledu. Bydd y dangosydd yn fflachio pan fyddwch yn fwy pell a bydd yn dod yn fwy cyson wrth i chi symud yn agosach.
  • Gwneud eich rheolau eich hun ar gyfer y gêm – nodi'r rhifau a'u lleoliad, neu gasglu'r tywysyddion micro:bit corfforol. Y tîm sydd â'r nifer mwyaf fydd yn ennill.

Beth sydd ei angen arnoch

  • Sawl micro:bit a phecynnau batri
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • lle digon mawr i guddio'r tywysyddion ynddo – gallai fod o dan do neu yn yr awyr agored

Cam 2: Codio

Tywysydd / trosglwyddydd

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=1, power=1)
4radio.on()
5id = '1' # change this number for each beacon
6display.show(id)
7sleep(2000)
8display.clear()
9
10while True:
11    radio.send(id)
12    sleep(200)
13

Derbynnydd

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=1)
4radio.on()
5
6while True:
7    message = radio.receive()
8    if message:
9        display.show(message)
10        sleep(200)
11        display.clear()
12

Cam 3: Gwella

  • Newid pŵer y trosglwyddydd i gwmpasu ardal fwy neu lai. Gall y pŵer fod yn unrhyw rif o 0 i 7.
  • Lleihau pŵer radio'r tywysyddion eto i'w gwneud yn anodd dod o hyd iddynt – bod yn ofalus i beidio â rhoi'r micro:bits yn uniongyrchol mewn cynhwysyddion metel, ond os byddwch yn rhoi un mewn blwch plastig neu gardfwrdd ac yna'n gorchuddio tu allan y blwch yn rhannol mewn ffoil tun, er enghraifft, ni fydd y signalau radio'n teithio mor bell.
  • Mae trosglwyddo signalau radio'n defnyddio mwy o bŵer, felly gallwch wneud i fatris y tywysyddion bara'n hwy drwy gynyddu'r oediad rhwng trosglwyddiadau i fwy na 200 milieiliad.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.