Skip to content

Gweithgaredd

Emosiynau sy'n fflachio

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED | Dilyniant, Haniaethu, Iteriad

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud eich teimladau'n wirioneddol amlwg gyda wynebau hapus a thrist sy'n fflachio.

micro:bit yn dangos wyneb sy'n gwenu ac yn fflachio ar ei ddangosydd LED

Sut mae'n gweithio

  • Fel y Prosiect bathodyn emosiwn, mae'r rhaglen hon yn dangos gwahanol ddelweddau emosiwn ar allbwn y dangosydd LED gan ddibynnu ar ba fotwm mewnbwn rydych yn ei wasgu.
  • Gall dolennau wneud i setiau o gyfarwyddiadau redeg am byth, ond yma rydym yn defnyddio dolen wedi'i rhifo i fflachio'r ddelwedd 4 gwaith i dynnu sylw yn wirioneddol.
  • Mae dolennau'n syniad da mewn rhaglennu cyfrifiadurol gan eu bod yn arbed ailadrodd yr un cod sawl gwaith, gan wneud eich rhaglen yn fwy effeithlon. Gelwir y syniad hwn hefyd yn iteriad.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if button_a.is_pressed():
5        for x in range(4):
6            display.show(Image.HAPPY)
7            sleep(200)
8            display.clear()
9            sleep(200)
10    if button_b.is_pressed():
11        for x in range(4):
12            display.show(Image.SAD)
13            sleep(200)
14            display.clear()
15            sleep(200)

Cam 3: Gwella

  • Gwneud i'r bathodyn fflachio mwy o weithiau drwy wneud y rhif 4 yn fwy.
  • Gwneud y fflachio'n fwy cyflym neu'n fwy araf wrth newid yr oedi o 200 milieiliadau (0.2 eiliadau).
  • Gwneud iddo fflachio am byth.
  • Defnyddio delweddau emosiwn gwahanol, neu greu eich delwedd eich hun.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.