Skip to content

Gweithgaredd

Bathodyn emosiwn

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED | 4 Addysg o ansawdd, Haniaethu, Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio'ch micro:bit i ddweud wrth y byd sut rydych yn teimlo.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae gan y micro:bit ddau fotwm mewnbwn ar y blaen y gallwch eu defnyddio i wneud i bethau ddigwydd.
  • Pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A bydd y rhaglen yn adweithio gan ddangos delwedd wyneb hapus ar allbwn y dangosydd LED.
  • Mae gwasgu botwm B yn gwneud i wyneb trist ymddangos.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if button_a.is_pressed():
5        display.show(Image.HAPPY)
6    if button_b.is_pressed():
7        display.show(Image.SAD)

Cam 3: Gwella

  • Rhowch gynnig ar ddelweddau emosiwn eraill megis ASLEEP (yn cysgu), CONFUSED (dryslyd) neu MEH.
  • Llunio eich 'emosiynau' eich hun gan ddefnyddio y dangosydd LED.
  • Defnyddio'r bathodyn i ddangos os oes angen help arnoch neu wneud bathodynnau pleidleisio dosbarth â thiciau neu groesau.
  • Llunio ffordd o wisgo eich bathodyn micro:bit gan ddefnyddio edau, neu dâp. (Peidiwch â defnyddio pinnau diogelwch gan gallai'r metel ddifrodi eich micro:bit.)
  • Gwnewch y prosiect yn fwy hygyrch trwy ychwanegu cardbord i wneud y botymau yn haws i'w pwyso.
micro:bit wedi'i ddal ar stribed o gardbord gyda 2 fand rwber. Mae'r cardbord yn cael ei blygu ar bob ochr i wneud fflapiau mawr wedi'u labelu A a B i wasgu pob botwm.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.