Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Troi eich micro:bit yn fathodyn enw sy'n sgrolio ag ychydig o gyfarwyddiadau'n unig.

Sut mae'n gweithio
- Mae allwn dangosydd LED y micro:bit yn gallu dangos geiriau a rhifau yn ogystal â lluniau.
- Mae'r rhaglen hon yn dangos i chi sut i sgrolio testun ar draws y sgrin i adael i bobl wybod eich enw a dangos llun.
- Mae dolen diderfyn yn gwneud i'r dilyniant barhau nes i chi ddad-blygio'r micro:bit o'i fatri neu gebl USB.
- Defnyddir testun sy'n sgrolio ar ddangosyddion LED yn aml i ddangos gwybodaeth am fysiau a threnau. Pa ddefnyddiau eraill allwch feddwl amdanynt ar gyfer testun sy'n sgrolio ar micro:bits?
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwneud i wahanol negeseuon ymddangos os byddwch yn gwasgu botwm A neu B.
- Sillafu eich enw un llythyren ar y tro.
- Llunio ffordd o wisgo eich bathodyn micro:bit gan ddefnyddio edau, tâp neu felcro. (Peidiwch â defnyddio pinnau diogelwch gan gallai'r metel ddifrodi eich micro:bit.)
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.