Skip to content

Gweithgaredd

Larwm goleuadau

Uwch | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Radio, Sain, Synhwyrydd golau | Cyfathrebu, Dewis, Golau, Gweithredwyr perthynol, Iteriad, Synwyryddion, Ynni

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Larwm o bell a reolir gan radio felly pan fyddwch yn gwybod bod rhywun wedi troi'r goleuadau ymlaen - neu wedi agor drôr neu fag.

micro:bit yn dangos wyneb blin gyda thonnau radio yn dod allan a ffynhonnell golau yn disgleirio arno

Sut mae'n gweithio

  • Fel y Prosiect synhwyrydd golau haul, mae'n defnyddio LEDs y micro:bit fel synhwyrydd golau i fesur faint o olau sy'n cwympo ar y dangosydd.
  • Gan ddefnyddio dolen, bob 10 eiliad mae'r rhaglen synhwyrydd yn anfon neges radio i ddweud a yw'n olau neu dywyll. Mae'n defnyddio dewis i drosglwyddo neges 'goleuadau ymlaen' os yw'r mesuriad golau yn fwy na (>) 50, a 'goleuadau i ffwrdd' os yw'n llai na (<) 50. Efallai y bydd angen i chi newid y gwerthoedd hyn gan ddibynnu ar amodau goleuo eich lleoliad.
  • Mae gwasgu botwm mewnbwn A yn dangos mesuriad golau ar allbwn y dangosydd LED a fydd yn eich helpu i osod eich larwm, fel y gallwch newid 50 i'r rhif gorau ar gyfer eich amgylchedd.
  • Mae'r rhaglen larwm yn ymateb pryd bynnag mae'n derbyn neges. Os bydd y neges yn cyfateb i 'goleuadau i ffwrdd'wedyn bydd yn clirio'r dangosydd LED ond os bydd yn cyfateb i 'goleuadau ymlaen' wedyn bydd yn dangos wyneb crac ac yn chwarae sain y larwm 'BADDY'.
  • Sicrhau bod eich synhwyrydd a'ch larwm yn defnyddio'r un grŵp radio - unrhyw rif rhwng 0 a 255.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit, o leiaf un â phecyn batri
  • rhywbeth gwerthfawr i'w gadw'n ddiogel
  • clustffonau, swnwyr neu seinyddion wedi'u pweru opsiynol ar gyfer larwm

Cam 2: Codio

Synhwyrydd / trosglwyddydd:

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=5)
4radio.on()
5
6while True:
7    if button_a.was_pressed():
8        display.scroll(display.read_light_level())
9    if display.read_light_level() > 50:
10        radio.send('lights on')
11    else:
12        radio.send('lights off')
13    sleep(10000)
14

Larwm / derbynnydd:

1from microbit import *
2import music
3import radio
4radio.config(group=5)
5radio.on()
6
7while True:
8    message = radio.receive()
9    if message:
10        if message == 'lights off':
11            display.clear()
12        elif message == 'lights on':
13            display.show(Image.ANGRY)
14            music.play(music.BADDY)
15

Cam 3: Gwella

  • Cyfuno hwn â'r prosiect Larwm gwyro i synhwyro pan fydd rhywbeth yn cael ei symud NEU os bydd y goleuadau'n cael eu troi ymlaen.
  • Gwnewch i'r larwm weithio y ffordd arall fel ei bod yn canu os bydd rhywun yn troi'r goleuadau i ffwrdd.
  • Addasu hyn i fonitro defnydd ynni: defnyddio newidyn i olrhain nifer yr eiliadau y mae'r goleuadau'n cael eu gadael ymlaen neu sbarduno larwm pan fyddant wedi bod ymlaen am rhy hir yn unig.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.