Skip to content

Gweithgaredd

Synhwyrydd golau’r haul

Dechreuwr | MakeCode, Python | Synhwyrydd golau | Dewis, Golau, Gweithredwyr perthynol, Mewnbwn/allbwn, Tywydd a hinsawdd

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Troi'r dangosydd LED yn synhwyrydd i wneud i'ch micro:bit ymateb i olau.

micro:bit yn ymateb i olau haul yn ei gyrraedd drwy ddangos eicon haul ar ei ddangosydd LED

Sut mae'n gweithio

  • Yn ogystal â gweithio fel allbwn, mae LEDs eich micro:bit yn gallu gweithio fel dyfais fewnbwn synhwyrydd golau, yn mesur swm y golau sy'n eu cyrraedd.
  • Mae hyn yn golygu y gall rhaglenni micro:bit wneud i wahanol bethau ddigwydd gan ddibynnu ar ba mor olau neu dywyll y mae.
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio datganiad ‘os… arall’ i ddangos delwedd yr haul os bydd lefel y golau'n fwy na (>) lefel benodol yn unig. Adnabyddir hyn yn ddewis - dewis pan fydd gwahanol bethau'n digwydd.
  • Fflachio'r rhaglen hon ar eich micro:bit a defnyddio ffynhonnell golau, fel fflachlamp, golau dydd neu olau nenfwd disglair ar y micro:bit a dylech weld yr haul yn ymddangos.
  • Gorchuddio'r micro:bit gyda'ch llaw a dylai eicon yr haul ddiflannu.
  • Os nad yw hynny'n gweithio, rhoi cynnig ar wneud y rhif 100 yn llai i fod yn addas ar gyfer y goleuo yn eich lleoliad.
  • Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth gefndirol am sut mae synhwyrydd golau'r micro:bit yn gweithio yma.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • ffynhonnell golau neu rywbeth i'w ddefnyddio i orchuddio'r micro:bit – bydd eich llaw yn gwneud y tro!

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if display.read_light_level() > 100:
5        display.show(Image(
6        "90909:"
7        "09990:"
8        "99999:"
9        "09990:"
10        "90909"))
11    else:
12        display.clear()

Cam 3: Gwella

  • Dangos llun arall, megis lleuad neu seren, pan fydd yn dywyll.
  • Dangos haul wedi'i animeiddio pan fydd golau'n cyrraedd eich micro:bit.
  • Troi'r prosiect hwn yn olau nos drwy wneud iddo oleuo dangosydd y micro:bit pan fydd yn tywyllu.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.