Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio eicon yr haul o Dyma'r haul i wneud animeiddiad pelydryn haul.

Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen yn dangos dilyniant o luniau haul ar y dangosydd LED yn seiliedig ar yr un a wnaethom yn y prosiect Dyma'r haul.
- Mae'n aros am 500 milieiliad (hanner eiliad) rhwng dangos pob delwedd i ganiatáu i chi ei gweld cyn dangos y ddelwedd nesaf.
- Mae'r dilynant yn gwneud animeiddiad pelydrau haul yn dod o ganol yr haul.
- Bydd y dilyniant yn ailddigwydd am gyhyd â bydd gan eich micro:bit bŵer gan fod y cyfarwyddiadau y tu mewn i ddolen am byth, neu ddiderfyn.
- Defnyddir cyfrifiaduron yn aml i helpu animeiddwyr i wneud cartwnau a ffilmiau, gan greu rhith symudiad drwy ddangos dilyniant o ddelweddau ychydig yn wahanol un ar ôl y llall.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- papur â sgwariau ar gyfer tynnu llun eich dyluniadau pelydrau haul eich hun (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Cyflymu neu arafu'r animeiddiad wrth newid yr oediad 500 milieiliad.
- Defnyddio eich dyluniad eich hun ar gyfer yr haul a'i belydrau.
- Yn Python, defnyddio amrediad o rifau rhwng 1 a 9 i ddangos pelydrau'r haul yn pylu wrth iddynt fynd ymhellach o'r canol.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.