Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Prosiect dis sy'n edrych fel dis go iawn gyda phatrymau dotiau yn lle rhifau.

Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect dis mae'n defnyddio mewnbwn y mesurydd cyflymiad i sbarduno creu rhif ar hap rhwng 1 a 6 a'i ddangos ar allbwn y dangosydd LED pan fyddwch yn ysgwyd y micro:bit.
- Yn lle dangos rhif, mae'r rhaglen hon yn defnyddio dewis i ddangos dotiau ar y dangosydd i gynrychioli'r rhifau, gan edrych fel y dotiau ar bob wyneb dis go iawn, gan ddibynnu ar ba rif ar hap a gynhyrchwyd.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- papur â sgwariau ar gyfer dylunio eich wynebau dis eich hun (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwneud i'r dangosydd glirio ar ôl ychydig eiliadau i wneud i'r batrïau bara'n hirach ac i'w gwneud hi'n amlwg pan fyddwch wedi rholio'r un rhif ddwywaith.
- Llunio eich patrymau dot eich hun i gynrychioli pob rhif.
- Gwneud iddo rolio rhifau uwch. Sut byddech yn eu cynrychioli ar allbwn dangosydd grid LED 5x5?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.