Skip to content

Gweithgaredd

Carreg, papur, siswrn

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad | Ar hap, Dewis

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Chwarae'r gêm glasurol hon â dau micro:bit a dysgu am ddewis, newidynnau a rhifau ar hap ar yr un pryd.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae carreg, papur, siswrn yn gêm hapchwarae glasurol ar gyfer dau. Rydych chi a phartner yn ysgwyd eich dyrnau dair gwaith ac yna'n gwneud ystumiau ar hap i ddangos carreg, papur neu siswrn. Mae carreg yn trechu siswrn, mae siswrn yn trechu papur ac mae papur yn trechu carreg (drwy lapio'r garreg!).
  • Pan fydd mesurydd cyflymiad y micro:bit yn canfod symudiad ysgwyd, bydd yn gosod offeryn y newidyn i rif ar hap: 0, 1 neu 2.
  • Rydym yn defnyddio 0 gan fod cyfrifiaduron yn cychwyn rhifo o 0, ac mae'n dda gofio bod 0 yn rhif!
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio dewis i benderfynu pa ddelwedd i'w dangos ar y dangosydd LED. Os mai 0 oedd y rhif ar hap, bydd yn dangos eicon carreg, os mai 1 oedd y rhif, bydd yn dangos yr eicon sy'n cynrychioli papur. Os nad yw'n 0 neu 1, mae'n rhaid iddo fod yn 2 gan ein bod wedi dweud wrth y micro:bit am ddewis rhifau ar hap rhwng 0 a 2 yn unig, felly yn yr achos hwnnw bydd yn dangos siswrn.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecynnau batri (opsiynol)
  • partner i chwarae ag ef/hi

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import random
3
4while True:
5    if accelerometer.was_gesture('shake'):
6        tool = random.randint(0,2)
7        if tool == 0:
8            display.show(Image.SQUARE_SMALL)
9        elif tool == 1:
10            display.show(Image.SQUARE)
11        else:
12            display.show(Image.SCISSORS)

Cam 3: Gwella

  • Dylunio eich eiconau eich hun ar gyfer carreg, papur a siswrn.
  • Meddyliwch am bethau eraill y gellid eu defnyddio yn lle carreg, papur a siswrn, neu crëwch reolau newydd.
  • Defnyddio swyddogaeth radio'r micro:bit i wneud gêm sy'n gwybod a ydych wedi ennill neu golli drwy gyfathrebu â micro:bit eich ffrind.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.