Skip to content

Gweithgaredd

Pêl 8 hud

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad | Ar hap, Dewis

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Ail-greu tegan clasurol o'r 1950au gyda'ch micro:bit a'i addasu i'w bersonoli.

micro:bit yn cael ei ysgwyd ac yn dangos tic ar ei ddangosydd LED wrth ochr tegan pêl 8 hud

Sut mae'n gweithio

  • Mae Pêl 8 Hud yn degan a ddyfeisiwyd yn UDA yn yr 1950au. O'r un siâp â phêl bŵl anarferol o fawr, rydych yn gofyn cwestiwn iddo, megis 'fydda i'n gyfoethog ac enwog ryw ddydd?', ysgwyd y bêl a bydd un o 20 o wahanol atebion yn ymddangos ar hap mewn ffenestr. Gall atebion fod yn gadarnhaol, yn negyddol - neu rywle yn y canol.
  • Mae'r rhaglen hon yn ail-greu Pêl 8 Hud gan ddefnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit, ei allu i greu rhifau ar hap a'i allbwn dangosydd LED i ddangos tic am 'ie', croes am 'na' neu wyneb 'meh' am 'ddim yn siŵr'.
  • Mae'r rhaglen yn cynhyrchu rhif ar hap rhwng 1 a 3 ac wedyn yn defnyddio datganiadau os... wedyn... arall... os... i wneud i wahanol symbolau ymddangos gan ddibynnu ar y rhif. Adnabyddir hyn yn ddewis.
  • Os mai 3 yw'r rhif, bydd yn dangos tic am 'ie'. Os mai 2 yw'r rhif, bydd yn dangos croes am 'na'.
  • Nid oes angen i'r rhaglen wirio a yw'r rhif yn 1, gan nad yw'n 3 na 2, mae'n rhaid iddo fod yn 1, felly bydd yn dangos wyneb 'meh' am 'ddim yn siŵr'.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • rhai cwestiynau i'w gofyn i'ch micro:bit

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import random
3
4while True:
5    if accelerometer.was_gesture('shake'):
6        number = random.randint(1, 3)
7        if number == 3:
8            display.show(Image.YES)
9        elif number == 2:
10            display.show(Image.NO)
11        else:
12            display.show(Image.MEH)

Cam 3: Gwella

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.