Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Golau nos sy'n goleuo dangosydd LED eich micro:bit pan fydd yn dywyll.

Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect synhwyrydd golau haul, mae hyn yn defnyddio LEDs y micro:bit fel mewnbwn synhwyrydd golau. Gorchuddio'r dangosydd â'ch llaw a gweld a fydd yn goleuo.
- Mae'n defnyddio dewis i synhwyro a yw'r golau sy'n cyrraedd y micro:bit yn is na lefel benodol – yn llai na (<) 100. Os yw'n dywyll, bydd yn goleuo dangosydd y micro:bit, fel arall, bydd yn clirio'r sgrin er mwyn i'r LEDs fod yn dywyll.
- Efallai bydd angen i chi addasu'r rhif trothwy 100 gan ddibynnu ar amodau golau eich lleoliad.
- Ar gyfer beth rydych yn meddwl y gallech ddefnyddio'r golau nos hwn? Allai helpu i wella diogelwch ar gyfer pobl neu anifeiliaid pan fydd yn dywyll?
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- ffynhonnell golau a rhywbeth i'w ddefnyddio i orchuddio'r micro:bit
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newid y ddelwedd i ddangos lleuad neu seren pan fydd yn tywyllu.
- Atodi'r micro:bit i'ch bag neu ddillad i ddefnyddio hyn fel golau diogelwch ychwanegol wrth gerdded neu seiclo - allwch chi wneud iddo fflachio i fod yn fwy amlwg?
- Rhoi cynnig ar y prosiect MakeCode hwn sy'n gwneud i'r dangosydd LED fod yn fwy golau ac yn fwy tywyll gan ddibynnu ar faint o olau sy'n cyrraedd y micro:bit. Ble arall rydych wedi gweld pethau eraill sy'n ymateb i olau yn y ffordd hon?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.