Skip to content

Gweithgaredd

Rhwydi pysgota sy'n goleuo

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Sain, Synhwyrydd golau | 14 Bywyd o dan y dŵr, Dewis, Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio'ch micro:bit i greu prototeip o oleuadau LED a all atal pysgod, crwbanod ac adar diangen rhag cael eu rhwydo mewn rhwydi pysgota.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i wneud prototeip ar gyfer prosiect mwy
  • Sut mae cyfrifiaduron yn cymryd darlleniadau o fewnbynnau, yn prosesu'r data i wneud allbynnau gwahanol yn dibynnu ar werth darlleniadau synhwyrydd

Sut mae'n gweithio

  • Mae prototeip yn fodel gweithio a ddefnyddir i brofi syniadau. Cofiwch gadw'ch micro:bit i ffwrdd o ddŵr go iawn!
  • Mae'r rhaglen hon yn defnyddio LEDs y micro:bit fel synhwyrydd golau. Mae'n dweud wrth y micro:bit am droi yr LEDs ymlaen pan fydd y golau yn llai na lefel benodol (50).
  • Gorchuddio dangosydd LED eich micro:bit, i efelychu bod yn ddwfn yn y môr, a dylai oleuo.
  • Efallai y bydd angen i chi newid y rhif 50 yn dibynnu ar amodau goleuo eich lleoliad. Os yw'n goleuo'n rhy hawdd, defnyddiwch rif llai.
  • Os oes gennych seinydd wedi'i gysylltu, neu os ydych yn defnyddio'r micro:bit newydd â sain, mae hefyd yn rhoi sain dirgryniad amledd uchel i helpu i gadw creaduriaid eraill i ffwrdd o'r rhwydi.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • ategolyn seinydd neu micro:bit newydd â sain (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3
4while True:
5    if display.read_light_level() < 50:
6        display.show(Image(
7        "99999:"
8        "99999:"
9        "99999:"
10        "99999:"
11        "99999"))
12        music.play("A5")
13    else:
14        display.clear()
15    sleep(1000)

Cam 3: Gwella

  • Newid y patrwm LED i animeiddiad o olau dirgrynol
  • Creu eich seiniau eich hun i ddychryn creaduriaid nad ydych eisiau eu dal i ffwrdd
  • Ychwanegu radio i reoli'r goleuadau a sain o bell

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.