Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud rhifydd camau gyda batrïau sy'n para'n hirach.
![micro:bit gyda dangosydd gwag wedi'i gysylltu â esgid](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/c98ff4e81a273cc5d67a4a32307da09fac2389ec-4032x3024.jpg?w=653&q=80&fit=max&auto=format)
Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect rhifydd camau mae'r rhaglen hon yn defnyddio'r mesurydd cyflymiad i gyfri cam bob tro mae'r micro:bit yn cael ei ysgwyd ac yn cadw'r cyfanswm mewn newidyn a elwir steps.
- Mae angen mwy o bŵer i gadw'r goleuadau LED ar y micro:bit ymlaen. Mae'r rhaglen hon yn arbed ynni drwy ddim ond dangos y rhifydd camau pan fyddwch yn gwasgu botwm A.
- Mae hyn yn golygu y bydd y batrïau yn para'n hirach, gan arbed arian, creu llai o wastraff a helpu'r amgylchedd.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- rhywbeth i gysylltu'r micro:bit â'ch esgid neu'ch coes - llinyn, tâp neu felcro.
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addasu'r rhaglen fel bod botwm B yn gosod y cownter yn ôl i 0.
- Mesur hyd eich cam a gwneud i'r micro:bit luosi hyn â nifer y camau i gyfrifo'r pellter rydych wedi'i gerdded.
- Meddwl am ffyrdd o addasu prosiectau eraill i wneud i'r batrïau bara'n hirach.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
![Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/4d56c9bba1dd53264761c94e9b9e0626d25b2f8d-770x239.png?bg=fff&w=444&q=80&fit=fill&auto=format)
Translation generously supported by the Welsh Government.