Skip to content

Gweithgaredd

Rhifydd camau sensitif

Canolradd | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad | Corff dynol, Dylunio cynnyrch, Grymoedd, Lluosi, Mesuriad, Offer perfformiad, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Rhifydd camau y gallwch ei wneud yn fwy manwl gywir drwy ei addasu ar gyfer eich dull cerdded personol.

micro:bit wedi'i gysylltu ag esgid

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut gall y micro:bit gasglu data cyflymiad rhifol
  • Sut i ddefnyddio trothwyon gyda data synwyryddion i sbarduno digwyddiadau megis cynyddu rhifydd camau

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r prosiectau Rhifydd camau a Rhifydd camau nad yw'n defnyddio llawer o egni yn defnyddio'r ystum 'ysgwyd' i gyfrif camau. Mae'r ystum 'ysgwyd' yn defnyddio nifer o ddarlleniadau synhwyrydd y mesurydd cyflymiad i benderfynu a yw'r micro:bit wedi cael ei ysgwyd.
  • Efallai byddwch yn canfod nad yw'r ystum 'ysgwyd' yn cael ei sbarduno bob tro rydych yn cymryd cam, neu ei bod yn cael ei sbarduno'n rhy hawdd, gan arwain at gyfrif camau'n anghywir.
  • I wneud rhifydd camau mwy manwl gywir, yn lle defnyddio'r ystum 'ysgwyd', mae'r rhaglen hon yn defnyddio data rhifol o'r mesurydd cyflymiad i benderfynu a ydych wedi cymryd cam, ac os ydych, bydd yn cynyddu'r newidyn camau gan 1.
  • Os yw'r cyflymiad yn fwy na (>) 1500, cynyddir y newidyn camau gan un a bydd yn dangos y nifer o gamau ar allbwn y dangosydd LED. 1500 yw'r trothwy – pan fydd symudiad yn sbarduno cyfrif cam.
  • Efallai bydd angen i chi newid y rhif 1500 i wneud y rhifydd camau'n fwy manwl gywir – ond gallwch chi benderfynu pa drothwy i'w ddefnyddio, tra cafodd y trothwy ei benderfynu gan y bobl a ddyluniodd y micro:bit gyda'r ystum 'ysgwyd'.
  • Gelwir addasu'r trothwy i weithio i chi yn graddnodi.
  • Noder bod y mesurydd cyflymiad yn rhoi darlleniad cryfder o oddeutu 1000 pan nad yw'r micro:bit yn symud. Mae hyn oherwydd bod disgyrchiant y Ddaear yn tynnu i lawr ar y micro:bit.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • rhywbeth i gysylltu'r micro:bit â'ch esgid neu'ch coes - llinyn neu Felcro.

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2steps=0
3
4while True:
5    if accelerometer.get_y() > 1500:
6        steps += 1
7        display.scroll(steps)
8

Cam 3: Gwella

  • Gwneud i'ch batris bara'n hwy drwy newid y rhaglen i ddangos y nifer o gamau'n unig pan fyddwch yn gwasgu'r botwm A.
  • Addasu'r rhaglen fel bod botwm B yn gosod y cownter yn ôl i 0.
  • Mesur hyd eich cam a gwneud i'r micro:bit luosi hyn â nifer y camau i gyfrifo'r pellter rydych wedi'i gerdded.
  • Gall y mesurydd cyflymiad fesur grymoedd mewn 3 dimensiwn, a elwir yn echelinau X, Y a Z. Gallwch addasu'r cod i ddewis pa echelin i'w mesur, gan ddibynnu ar ba ffordd rydych yn cysylltu'ch micro:bit â'ch coes neu esgid.
delwedd yn dangos yr echelin X ar draws blaen y micro:bit, yr echelin y i fyny ac i lawr, a'r echelin z yn mynd o'r cefn i'r blaen
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.