Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud bathodyn emosiwn sy'n mynegi eich teimladau mewn seiniau yn ogystal â lluniau.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio seiniau parod y micro:bit newydd fel allbynnau i ychwanegu personoliaeth a mynegiant at eich prosiectau.
 
Sut mae'n gweithio
- Gall y micro:bit gyda seinydd parod chwarae seiniau mynegiannol newydd. Bydd y prosiect hwn yn chwarae sain hapus pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A i gyd-fynd â'r eicon hapus ar allbwn y dangosydd LED.
 - Bydd yn chwarae sain drist pan fyddwch yn gwasgu botwm B i gyd-fynd â'r eicon wyneb trist.
 - Pan fyddwch yn gwasgu'r logo cyffwrdd, bydd yn chwarae'r sain 'neidio' i gyd-fynd â'r wyneb syn ar y dangosydd LED.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit newydd gyda sain (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2import audio
3
4while True:
5    if button_a.is_pressed():
6        display.show(Image.HAPPY)
7        audio.play(Sound.HAPPY)
8    if button_b.is_pressed():
9        display.show(Image.SAD)
10        audio.play(Sound.SAD)
11    if pin_logo.is_touched():
12        display.show(Image.SURPRISED)
13        audio.play(Sound.SPRING)Cam 3: Gwella
- Arbrofi gyda'r gwahanol seiniau mynegiannol newydd megis 'piffian chwerthin', 'helo' a 'disgleirio'.
 - Addasu'r rhaglen gydag eiconau gwahanol emosiynau neu dynnu llun eich eiconau eich hun.
 - Ychwanegu animeiddiad i gyd-fynd â phob mynegiant.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


