Skip to content

Gweithgaredd

Thermomedr

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED, Synhwyrydd tymheredd | Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion, Tymheredd, Tywydd a hinsawdd

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Dangos pa mor boeth neu oer yw eich micro:bit gan ddefnyddio'r synhwyrydd tymheredd parod.

micro:bit yn dangos rhif 9 wrth ymyl eicon thermomedr

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen hon yn dangos pa mor boeth neu oer yw eich micro:bit drwy gymryd darlleniad o'r synhwyrydd tymheredd yn ei brosesydd neu CPU (uned brosesu ganolog).
  • Mae tymheredd y prosesydd yn frasamcan eithaf da o'r tymheredd o'ch cwmpas mewn °C (Celsius).
  • Yn y rhaglen hon, pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A, bydd y micro:bit yn dangos tymheredd presennol y prosesydd ar ei allbwn dangosydd LED.
  • Mynd â'r micro:bit i mewn i leoedd cynhesach ac oerach a gweld sut mae'r darlleniadau tymheredd yn newid.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • ffynhonnell gwres neu oeri, fel ffan, os ydych eisiau gweld y tymheredd yn newid yn gyflym (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if button_a.was_pressed():
5        display.scroll(temperature())
6

Cam 3: Gwella

  • Cymharu'r darlleniad â thermomedr arall. Pa mor gywir yw'r micro:bit? A oes angen i chi addasu darlleniad y micro:bit i gael tymheredd yr aer?
  • Trosi'r tymheredd yn Fahrenheit neu Kelvin.
  • Defnyddio radio i wneud synhwyrydd o bell sy'n anfon darlleniadau tymheredd i micro:bit arall, er enghraifft o'r tu allan i'r tu mewn. Gallech wneud thermomedr dan do/y tu allan yn y modd hwn.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.