Skip to content

Gweithgaredd

Thermomedr dan do-y tu allan

Canolradd | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED, Radio, Synhwyrydd tymheredd | Cyfathrebu, Mewnbwn/allbwn, Newidynnau, Tonnau radio, Tymheredd

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Defnyddio dau micro:bit fel y gallwch fonitro tymheredd yr awyr agored o bell.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r prosiect hwn yn defnyddio dwy raglen wahanol, un ar gyfer y micro:bit yn yr awyr agored sy'n synhwyro'r tymheredd ac yn ei drosglwyddo ar grŵp radio 23.
  • Mae'r micro:bit yn yr awyr agored yn defnyddio ei synhwyrydd tymheredd i fesur pa mor boeth neu oer yw hi.
  • Mae'n defnyddio radio i anfon darlleniad y tymheredd hwn i'r micro:bit dan do.
  • Pan fydd y micro:bit dan do yn derbyn darlleniad tymheredd o'r tu allan, bydd yn ei gadw mewn newidyn a elwir yn outdoorTemp.
  • Pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A ar y micro:bit dan do, bydd yn dangos ei ddarlleniad tymheredd presennol ei hun ar ei allbwn dangosydd LED .
  • Pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn B, bydd yn dangos darlleniad y tymheredd y tu allan y mae wedi'i gadw yn y newidyn outdoorTemp.

Beth sydd ei angen arnoch

  • Dau micro:bit
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri
  • Cynhwysydd gwrth-ddŵr, megis blwch plastig

Cam 2: Codio

Synhwyrydd a throsglwyddydd y tu allan:

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=23)
4radio.on()
5
6while True:
7    radio.send(str(temperature()))
8    sleep(5000)
9

Synhwyrydd a derbynnydd dan do:

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=23)
4radio.on()
5outdoorTemp = '-'
6
7while True:
8    message = radio.receive()
9    if message:
10        outdoorTemp = message
11    if button_a.was_pressed():
12        display.scroll(str(temperature()))
13    if button_b.was_pressed():
14        display.scroll(outdoorTemp)
15        

Cam 3: Gwella

  • Gwneud i'r batris bara'n hirach trwy gael y micro:bit y tu allan i droi ei radio i ffwrdd pan nad yw'n cael ei ddefnyddio ac anfon darlleniadau tymheredd yn llai aml.
  • Defnyddio newidynnau i olrhain y tymheredd uchaf ac isaf a gofnodwyd.
  • Graddnodi'r darlleniadau yn erbyn thermomedr arall i weld a oes angen i chi addasu tymheredd y micro:bit.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.