Skip to content

Gweithgaredd

Rhybudd potel ddŵr

Dechreuwr | MakeCode, Python | Mesurydd cyflymiad | Iechyd

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Trowch eich BBC micro:bit yn rhybudd potel ddŵr, fel y gallwch ddweud a yw rhywun arall wedi yfed ohono. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio arddangosydd LED y micro:bit a'r mesurydd cyflymu.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r micro:bit yn dangos calon ar ei sgrîn LED pan fydd eich potel ddŵr yn unionsyth.
  • Mae'r sgrîn LED yn dangos croes rybuddio pan fydd gogwydd yn cael ei ganfod gan fesurydd cyflymu y micro:bit. Mae'r groes yn aros yno nes i chi ailosod y rhaglen trwy bwyso'r botwm ailosod ar gefn y micro:bit neu drwy ddatgysylltu ac ailgysylltu'r batri.
  • Mae mesurydd cyflymu yn mesur grymoedd mewn tri dimensiwn, gan gynnwys disgyrchiant, fel y gall eich prosiectau ddweud pa ffordd i fyny yw eich micro:bit.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode
  • pecyn batri

Cam 2: Codio

1# Imports go at the top
2from microbit import *
3
4display.show(Image.HEART)
5sleep(400)
6
7while True:
8    if accelerometer.was_gesture('right'):
9        display.show(Image.NO)
10

Cam 3: Gwella

  • Dewch o hyd i ffordd i ailosod y rhaglen heb ddefnyddio botwm ailosod y micro:bit, er enghraifft trwy bwyso'r botymau A neu B i ddangos eicon calon.
  • Ychwanegwch larwm clywadwy gan ddefnyddio blociau o adran gerddoriaeth y golygydd MakeCode.