Skip to content

Gweithgaredd

Arae gweithgareddau

Canolradd | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED | Ar hap, Newidynnau, Strwythurau data

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Yn ei chael hi'n anodd penderfynu neu gytuno ar yr hyn i'w wneud? Defnyddio araeau i greu rhaglen micro:bit sy'n dewis ar eich cyfer!

micro:bit gydag eiconau gweithgareddau gwahanol

Sut mae'n gweithio

  • Mae'ch micro:bit yn cadw rhestr o'ch gweithgareddau posibl mewn rhestr (neu arae) a elwir yn 'opsiynau'. Mae araeau yn ffyrdd defnyddiol iawn o gadw data mewn rhestrau.
  • Pan fyddwch yn gwasgu botwm A bydd yn dewis eitem o'r rhestr ar hap ac yn ei dangos ar y dangosydd LED.
  • Mae defnyddio arae'n ei gwneud hi'n hawdd iawn addasu'r cod i ychwanegu mwy o opsiynau at y rhestr.
  • Oherwydd bod y cod yn mesur pa mor hir yw'r arae, nid oes fyth angen i chi addasu'r cod rhif ar hap, rydych yn gallu ychwanegu pethau a thynnu pethau o'r rhestr.
  • Mae'n dewis rhif ar hap ac yn ei gadw mewn newidyn a elwir yn 'choice'. Bydd y rhif rhwng 0 ac un yn llai na hyd yr arae oherwydd bod cyfrifiaduron fel arfer yn dechrau cyfrif eitemau mewn araeau o 0. 'PE with Joe' yw eitem rhif 0 yn y rhestr, yr eitem olaf 'pobi teisen' yw eitem rhif 5 ond mae'r arae yn cynnwys 6 eitem.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import random
3
4options = ['PE with Joe', 
5           'watch a movie',
6           'play a board game',
7           'tidy our rooms',
8           'learn a song',
9           'bake a cake']
10
11while True:
12    if button_a.is_pressed():
13        choice = random.randint(0, len(options)-1)
14        display.scroll(options[choice])

Cam 3: Gwella

  • Addaswch hyn drwy roi eich gweithgareddau eich hun yn y cod.
  • Sut gallech ei gwneud yn fwy tebygol i ddewis eich hoff weithgaredd?
  • Rhowch gynnig ar ysgrifennu'r un rhaglen yn Python.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.