Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Yn ei chael hi'n anodd penderfynu neu gytuno ar yr hyn i'w wneud? Gadewch i'r rhaglen micro:bit hon ddewis ar eich cyfer!
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae gwasgu botwm A yn gwneud i'ch micro:bit ddewis rhif ar hap rhwng 1 a 6.
- Mae'n cadw'r rhif mewn newidyn a elwir yn random_number.
- Mae'r rhaglen yn profi'r rhif ar hap gan ddefnyddio dewis. Gan ddibynnu ar y rhif, dangosir gweithgareddau gwahanol.
- Nid yw'n profi'n benodol os mai 6 yw'r rhif ar hap - pam hynny?
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addaswch hyn drwy roi eich gweithgareddau eich hun yn y cod.
- Ychwanegu mwy o weithgareddau.
- Sut gallech ei gwneud yn llai tebygol ei fod yn dweud wrthych i dacluso'ch ystafell?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.