Skip to content

Gweithgaredd

Goleuadau curo dwylo

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Meicroffon | Dewis, Rhesymeg Boolean, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Troi eich micro:bit yn olau y gallwch ei droi ymlaen ac i ffwrdd drwy guro dwylo neu wneud unrhyw sŵn uchel.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i newid allbynnau mewn ymateb i fewnbynnau synhwyrydd
  • Sut i ddefnyddio rhesymeg Boolean i greu switsh sy'n toglo ymlaen ac i ffwrdd pan fydd yn cael ei sbarduno gan yr un digwyddiad

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen yn defnyddio newidyn a elwir yn lightsOn i olrhain statws y golau: a yw ymlaen neu i ffwrdd. Rydym yn ei ddefnyddio fel math arbennig o newidyn, newidyn Boolean. Gall fod gan newidynnau Boolean ddau werth yn unig: gwir (ymlaen) neu gau (i ffwrdd).
  • Pan fydd synhwyrydd y meicroffon yn synhwyro sŵn uchel, bydd y cod yn toglo gwerth lightsOn drwy ei osod i fod yn nid lightsOn.
  • Mae hyn yn golygu pan fyddwch yn curo dwylo, os yw lightsOn yn gau (a bod y goleuadau i ffwrdd), bydd yn troi'n wir a bydd y rhaglen yn goleuo'r LEDs.
  • Os oedd lightsOn yn wir (a bod y goleuadau ymlaen), bydd yn troi'n gau a bydd y cod yn troi'r LEDs i ffwrdd drwy glirio'r sgrin.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2lightsOn = False
3
4while True:
5    if microphone.was_event(SoundEvent.LOUD):
6        lightsOn = not lightsOn
7        if lightsOn:
8            display.show(Image('99999:'
9                               '99999:'
10                               '99999:'
11                               '99999:'
12                               '99999'))
13        else:
14            display.clear()
15    sleep(100)

Cam 3: Gwella

  • Gallwch wneud y bloc 'ar sŵn uchel' yn fwy neu'n llai sensitif drwy ychwanegu bloc 'gosod trothwy sŵn uchel' at floc 'ar ddechrau'. Defnyddio rhifau llai ar gyfer synau mwy tawel, rhifau mwy ar gyfer synau uwch. Mae'r fideo codio uchod yn dangos i chi sut i wneud hyn.
  • Yn Python, i newid y trothwy ar gyfer synau uchel defnyddiwch microphone.set_threshold(SoundEvent.LOUD, 128) gan newid y rhif 128 i'r gwerth o'ch dewis rhwng 0 a 255.
  • Gwneud i'r goleuadau hefyd chwarae tôn pan fyddant yn troi ymlaen.
  • Defnyddio sŵn i reoli prosiectau eraill, megis goleuo LEDs neu foduron serfo sydd wedi'u cysylltu â'r pinnau ar eich micro:bit.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.