Skip to content

Gweithgaredd

Calonnau curo dwylo

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Meicroffon | Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud i feicroffon y micro:bit newydd ymateb i guro dwylo a churiadau gyda sioe olau wedi'i hanimeiddio.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut mae cyfrifiaduron yn defnyddio mewnbynnau, eu prosesu gan ddefnyddio cod a chreu gwahanol allbynnau
  • Sut i ddefnyddio synhwyrydd meicroffon parod y micro:bit newydd i sbarduno digwyddiadau yn eich cod
  • Gellir defnyddio meicroffon y micro:bit i ymateb i synau tawel ac uchel

Sut mae'n gweithio

  • Pan fydd y meicroffon yn synhwyro sŵn uchel megis curo dwylo, mae'n dangos calon fawr ar y dangosydd LED.
  • Os bydd yn synhwyro sŵn tawel er enghraifft ar ôl i chi orffen curo dwylo, bydd yn dangos calon fach.
  • Effaith hyn yw creu animeiddiad calon syml sy'n ymateb i guro dwylo neu guriadau cryf mewn cerddoriaeth.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit newydd â sain (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if microphone.current_event() == SoundEvent.LOUD:
5        display.show(Image.HEART)
6        sleep(200)
7    if microphone.current_event() == SoundEvent.QUIET:
8        display.show(Image.HEART_SMALL)

Cam 3: Gwella

  • Creu eich animeiddiad eich hun gan ddefnyddio eiconau eraill neu dynnu eich lluniau eich hun.
  • Gwneud i'r micro:bit ymateb i sŵn uchel drwy wneud ei sŵn ei hun. A yw hyn yn achosi unrhyw broblemau? Sut gallwch eu cywiro?
  • Gallwch newid lefel y sŵn sy'n sbarduno digwyddiad sŵn uchel. Gelwir y lefel hon yn drothwy. Yn MakeCode, defnyddiwch y bloc mewnbwn 'gosod trothwy sŵn uchel i...' i ddewis gwahanol lefelau sŵn i'w wneud yn fwy neu'n llai sensitif i synau uchel.
  • Yn Python, i newid y trothwy ar gyfer synau uchel defnyddiwch microphone.set_threshold(SoundEvent.LOUD, 128) - gan newid y rhif 128 i'r gwerth o'ch dewis rhwng 0 a 255.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.