Skip to content

Gweithgaredd

Goleuadau disgo

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Meicroffon | Mewnbwn/allbwn

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud eich sioe goleuadau disgo eich hun â'r micro:bit newydd! Mae'r goleuadau LED yn curo mewn amser i gerddoriaeth mae'r meicroffon parod yn ei chanfod. Po uchaf yw'r sain po fwyaf maent yn disgleirio.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i ddefnyddio synhwyrydd meicroffon parod y micro:bit newydd i fesur pa mor uchel yw'r sain
  • Sut i amrywio disgleirdeb allbwn y dangosydd LED mewn ymateb i ddarlleniadau mewnbwn synhwyrydd

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r meicroffon yn mesur maint y sain mae'n ei godi fel rhifau o 0-255. 0 yw'r sain tawelaf, 255 yw'r uchaf.
  • Mae pob un o'r LEDs ar y dangosydd wedi'u troi ymlaen pan fydd y rhaglen yn dechrau.
  • Gellir hefyd gosod disgleirdeb yr LEDs gan ddefnyddio rhifau o 0-255. 0 yw'r tywyllaf (i ffwrdd) a 255 yw'r mwyaf disglair.
  • Mae dolen yn gosod disgleirdeb LEDs yn gyson i gyd-fynd â maint y sain mae'r synhwyrydd meicroffon yn ei ganfod.
  • Po uchaf yw'r sain, y mwyaf disglair mae'n gwneud i'r LEDs ddisgleirio.
  • Fflachio'r rhaglen hon ar micro:bit newydd â sain, chwarae ychydig o gerddoriaeth gyda churiad cryf a gwylio'r goleuadau'n curo mewn amser i'r gerddoriaeth!

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit newydd â sain (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3lights = Image("11111:"
4              "11111:"
5              "11111:"
6              "11111:"
7              "11111")
8
9while True:
10    display.show(lights * microphone.sound_level())

Cam 3: Gwella

  • Addasu'r rhaglen i ddefnyddio eich delweddau neu batrymau eich hun
  • Os ydych mewn dosbarth neu grŵp, fflachiwch y rhaglen ar sawl micro:bit, pylu'r goleuadau, chwarae ychydig o gerddoriaeth a chael sioe goleuadau!
  • Allwch wneud i'r goleuadau fynd yn dywyllach â seiniau uwch?
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.