Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Mesur pa mor swnllyd yw hi o'ch cwmpas gan ddefnyddio synhwyrydd meicroffon y micro:bit newydd a dangosydd siart bar syml.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio synhwyrydd mewnbwn meicroffon parod y micro:bit newydd i fesur pa mor uchel yw'r seiniau o'ch cwmpas
- Sut i ddangos data rhifol o synwyryddion mewnbwn yn raffigol ar allbwn y dangosydd LED
Sut mae'n gweithio
- Mae meicroffon y micro:bit newydd yn mesur lefelau sain mewn rhifau rhwng 0 a 255. 0 yw'r mesuriad sain tawelaf y gall ei wneud a 255 yw'r uchaf.
- Mae'r cod yn defnyddio dolen am byth i wneud i'r meicroffon barhau i fesur lefelau sain a phlotio graff bar ar y dangosydd LED.
- Po uchaf y seiniau a fesurir, yr uchaf y bydd y graff bar.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit newydd gyda sain (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Creu eich ffyrdd eich hun o ddangos pa mor uchel yw sain, er enghraifft drwy ddangos gwahanol emojis gan ddibynnu ar ba mor uchel yw'r sain
- Gwneud larwm sŵn gweledol sy'n fflachio'n unig pan fydd y sain yn mynd dros lefel benodol - gallech ei ddefnyddio i helpu i gadw'ch ystafell ddosbarth yn dawel
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.