Skip to content

Gweithgaredd

Recordydd llais doniol

Canolradd | MakeCode | Meicroffon, Recordiad sain, Sain, Seinydd | Caledwedd a meddalwedd, Mewnbwn/allbwn, Sain, Traw

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Recordiwch eich llais gan ddefnyddio meicroffon y BBC micro:bit a’i chwarae’n ôl yn gyflym – neu wedi’i arafu.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut i'w ddefnyddio

Rhowch y cod isod ar micro:bit. Pwyswch y botwm A a siaradwch i mewn i'r meicroffon. Mae sgwâr yn ymddangos ar y sgrîn LED wrth iddo recordio.

Pwyswch y botwm B i chwarae'r sain wedi'i recordio yn ôl. Mae'n chwarae'n ôl ddwywaith mor gyflym, gan wneud i'ch llais gyflymu a swnio'n wichlyd!

Sut mae'n gweithio

Mae'r cod yn gosod cyfradd y sampl i 10,000 Hertz (Hz) ar gyfer cofnodi. Mae hyn yn golygu bod y micro:bit yn mesur, neu'n samplo, sain o'r meicroffon 10,000 o weithiau bob eiliad.

Pan fydd yn ei chwarae yn ôl, mae'n chwarae'r samplau ddwywaith mor gyflym, 20,000 o weithiau bob eiliad. Mae hyn yn golygu ei fod yn chwarae'n ôl ddwywaith mor gyflym, ac yn dyblu traw unrhyw synau y mae'n eu recordio.

Bydd recordio sain newydd yn dileu eich recordiad blaenorol, yn ogystal â phwyso'r botwm ailosod ar y cefn, neu ddad-blygio'r micro:bit o'i ffynhonnell pŵer (USB neu becyn batri).

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit V2
  • Golygydd MakeCode
  • dewisol: ceblau clip crocodeil a chlustffonau, neu seinydd chwyddedig, i gynyddu lefel ac ansawdd y sain

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Newidiwch ‘ar bwyso botwm B’ i ‘ar ysgwyd’ – yna gallwch recordio sain a rhoi’r micro:bit gyda rhywbeth rydych chi am ei ddiogelu. Bydd yn chwarae'ch recordiad yn ôl pan fydd yn cael ei godi!
  • Newidiwch rif cyfradd y sampl chwarae yn ôl yn y bloc botwm B: bydd rhifau mwy yn ei gwneud hi'n chwarae'n ôl yn gyflymach, ac yn gwneud y traw yn uwch. Bydd niferoedd is yn arafu'r sain ac yn gwneud y traw yn is.
  • Arbrofwch gyda gwahanol gyfraddau cofnodi sampl: bydd cofnodi ar gyfraddau sampl is yn caniatáu i chi wneud recordiadau hirach, ond bydd yr ansawdd yn waeth. Mae cyfraddau cofnodi sampl uwch yn golygu mai dim ond recordiadau byrrach y gallwch chi eu gwneud, ond bydd yr ansawdd yn well.
  • Atodwch glustffonau neu seinydd chwyddedig i binnau 0 a GND i wella ansawdd y sain sy'n cael ei chwarae yn ôl.