Skip to content

Gweithgaredd

Gwneud ychydig o sŵn

Canolradd | MakeCode, Python | Pinnau, Sain | Caledwedd a meddalwedd, Mewnbwn/allbwn, Sain

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Cysylltu clustffonau â'ch micro:bit a gwneud cerddoriaeth!

diagram yn dangos blaen y plwg clustffon wedi'i gysylltu â phin 0 micro:bit a rhan hir y plwg clustffon wedi'i gysylltu â GND ar micro:bit

Sut mae'n gweithio

  • I wneud seiniau â micro:bit, cysylltwch glustffonau neu seinydd. Clipiwch flaen y plwg clustffonau i bin 0 ar micro:bit. Clipiwch ran hirach y plwg clustffon i'r pin GND ar micro:bit.
  • Defnyddio'r rhaglen hon i wneud i'ch micro:bit chwarae un o'i donau parod pan fyddwch yn gwasgu botwm A.
  • Defnyddir y pinnau aur ar waelod y micro:bit ar gyfer mewnbynnau ac allbynnau. Yma rydym yn defnyddio pin 0 fel mewnbwn. Mae'r micro:bit yn anfon pylsiau o signalau trydanol o pin 0 pan fydd yn chwarae'r dôn. Mae rhaid i'r clustffonau hefyd gael eu cysylltu â'r pin GND ar y micro:bit i gwblhau'r cylched drydanol.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • pâr o glustffonau, swnyn neu seinydd a fwyhawyd
  • dau gebl clip crocodeil

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3
4while True:
5    if button_a.was_pressed():
6        music.play(music.NYAN)
7

Cam 3: Gwella

  • Rhoi cynnig ar wahanol donau megis ODE, BLUES neu BIRTHDAY. Gallwch ddod o hyd i restr o donau gallwch eu defnyddio yn Python yma.
  • Gwneud i'r dôn chwarae mwy nag unwaith gan ddefnyddio dolen.
  • Beth fydd yn digwydd os byddwch yn cysylltu pin 0 â rhan ganol y plwg clustffon yn hytrach na'r blaen?
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.