Skip to content

Gweithgaredd

Gitâr 1 - tonau cyffwrdd

Uwch | MakeCode, Python | Pinnau, Sain | Electroneg, Mewnbwn/allbwn, Sain, Trydan

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Chwarae gwahanol alawon gan ddefnyddio synhwyrydd cyffwrdd micro:bit.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r prosiect hwn yr un fath â'r Prosiect jiwcbocs ond yn lle defnyddio'r botymau micro:bit, byddwch chi'n gwneud eich dyfais fewnbynnu eich hun gan ddefnyddio cardbord sydd wedi'i orchuddio â stribedi o ffoil tun sydd wedi'i gysylltu â cheblau clip crocodeil i binnau'r micro:bit.
  • Fflachiwch y rhaglen ar eich micro:bit.
  • Cysylltwch un pen o dri chebl clip crocodeil i binnau 1, 2 a GND (pin daear). Cysylltwch y pennau eraill i gitâr neu allweddell cardbord.
  • Gydag un bys, cyffyrddwch â'r ffoil sydd wedi'i gysylltu â GND, a gyda bys arall cyffyrddwch â'r ffoil sydd wedi'i gysylltu â phin 1 ac yna pin 2. Dylai chwarae alaw wahanol yn dibynnu ar ba stribed o ffoil rydych chi'n ei gyffwrdd.
  • Mae'r micro:bit yn defnyddio pinnau 1 a 2 fel mewnbynnau cyffwrdd. Pan fyddwch chi'n cyffwrdd â'r naill neu'r llall o'r pinnau hyn a'r pin GND, rydych chi'n cwblhau cylched drydanol. Mae ychydig bach o drydan yn llifo trwoch chi, gall y micro:bit ei ganfod ac mae'r rhaglen yn sbarduno chwarae alaw.
  • Os nad oes gennych chi micro:bit V2, sy'n chwarae sain, atodwch glustffonau i'r pinnau 0 a GND.
llun yn dangos sut i gysylltu padiau ffoil arian â phinnau micro:bit 1, 2 a GND

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit a phecyn batri opsiynol
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • tri chebl clip crocodeil
  • cardbord, ffoil tun, ffon lud a siswrn i wneud gitâr neu allweddell
  • yn ddewisol clustffonau, swnyn, neu seinydd gyda dau gebl clip crocodeil ychwanegol ar gyfer defnyddwyr V1

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3
4while True:
5    if pin1.is_touched():
6        music.play(music.ODE)
7    if pin2.is_touched():
8        music.play(music.BLUES)
9

Cam 3: Gwella

  • Newid yr alawon sy'n cael eu chwarae pan fyddwch chi'n cyffwrdd â'r ffoil tun.
  • Rhaglennu eich tonau eich hun.
  • Dangos lluniau, llythrennau, rhifau neu eiriau gwahanol yn dibynnu ar ba alaw a ddewisoch.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.