Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwella'ch gitâr micro:bit drwy symud y traw i fyny ac i lawr wythfedau.

Sut mae'n gweithio
- Cysylltu eich micro:bit â chlustffonau neu seinydd er mwyn clywed sain.
- Cysylltu padiau ffoil tun â phinnau'r micro:bit fel yn y prosiectau Gitâr 1 a Gitâr 2.
- Yn lle defnyddio nodiant cerddorol i chwarae nodau, mae'r rhaglen hon yn cadw amledd pob nodyn mewn newidynnau a elwir yn F, A, C ac E.
- Pan fyddwch yn cyffwrdd â phin 1 neu bin 2 a GND bydd yn chwarae cord wedi'i dorri, ond nawr gallwch symud y cord i lawr wythfed (gostwng ei draw) drwy wasgu botwm A, a'i symud i fyny wythfed (gan godi ei draw) drwy wasgu botwm B.
- Mae traw (amledd) nodyn yn dyblu pan fyddwch yn symud i fyny un wythfed: mae gan A ganol amledd o 440Hz (440 dirgryniad yr eiliad), mae gan A uchel amledd o 880Hz. Dyma pam mae gwneud y rhan ddirgrynol o dannau gitâr yn wahanol hyd â'ch bysedd yn newid traw y nodyn sy'n cael ei chwarae.
- Mae botymau A a B yn haneru ac yn dyblu'r rhif amledd sy'n cael ei gadw ym mhob newidyn, sy'n cael yr effaith o ostwng neu godi pob nodyn sy'n cael ei chwarae gan un wythfed.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri opsiynol
- clustffonau, swnyn neu seinydd wedi'i bweru
- 5 cebl clip crocodeil
- cardfwrdd, ffoil tun, glud, a siswrn opsiynol i wneud gitâr neu allweddell
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Creu siâp gitâr allan o gardfwrdd a gosod eich micro:bit arno er mwyn i chi allu perfformio yn sefyll i fyny.
- Os byddwch yn symud yr wythfedau yn rhy uchel neu'n rhy isel, bydd y rhaglen yn stopio gweithio - ac ni allwch glywed seiniau amledd isel iawn neu uchel iawn. Addasu'r rhaglen i atal hyn rhag digwydd.
- Cynyddu neu ostwng y tempo gan ddibynnu ar ba ffordd rydych yn gwyro'r micro:bit.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.