Skip to content

Gweithgaredd

Gitâr 2 - cordiau

Uwch | MakeCode, Python | Pinnau, Sain | Dilyniant, Electroneg, Harmoni, Sain, Trydan

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud i'ch gitâr neu allweddell micro:bit chwarae cordiau ag un cyffyrddiad.

Clustffonau wedi'u cysylltu â phinnau 0 a GND, padiau ffoil tun wedi'u cysylltu â phinnau 1, 2 a GND ar micro:bit

Sut mae'n gweithio

  • Dim ond un nodyn ar y tro y gall y micro:bit chwarae, felly ni all chwarae cord go iawn. Fodd bynnag, gall chwarae cord wedi'i dorri neu arpeggio: cymryd 3 nodyn o unrhyw gord a'u chwarae un ar ôl y llall a byddant yn swnio'n dda gyda'i gilydd.
  • Cysylltu micro:bit â chlustffonau er mwyn clywed sain.
  • Cysylltu padiau ffoil tun â phinnau'r micro:bit fel yn y prosiect Gitâr 1 - Tonau cyffwrdd.
  • Pan fyddwch yn cyffwrdd â phin 1 bydd yn chwarae cord F fwyaf wedi'i dorri, pan fyddwch yn cyffwrdd â phin 2 bydd yn chwarae cord A leiaf wedi'i dorri.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit a phecyn batri opsiynol
  • clustffonau, swnyn neu seinydd wedi'i bweru
  • 5 cebl clip crocodeil
  • cardfwrdd, ffoil tun, glud, a siswrn opsiynol i wneud gitâr neu allweddell

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Addasu'r rhaglen i chwarae gwahanol gordiau, defnyddio botymau neu ystumiau'r micro:bit i ychwanegu mwy na dau.
  • Newid y tempo i wneud i'r cordiau chwarae'n gyflymach. Yn MakeCode gallwch ddefnyddio'r blociau tempo. Yn Python newid y rhif yn y nodyn cyntaf: Mae F4:4 yn golygu chwarae F yn y 4edd wythfed am hyd o 4. Gwneud yr ail 4 yn rhif llai a gweld beth sy'n digwydd.
  • Defnyddio dolennau i barhau i chwarae'r cordiau barhau fel teclyn arpeggio (nodwedd rhai allweddellau a syntheseiswyr sy'n achosi i arpeggio barhau i chwarae cyhyd â bod allwedd yn cael ei dal i lawr).
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.