Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud peiriant cerddoriaeth sy'n chwarae gwahanol donau wrth wasgu botwm.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae jiwcbocs yn beiriant sy'n chwarae gwahanol ganeuon pan fyddwch yn rhoi darn o arian i mewn ac yn dewis pa dôn rydych am ei chlywed wrth wasgu botymau.
- Mae jiwcbocs y micro:bit hwn yn defnyddio clustffonau neu seinyddion wedi'u cysylltu i wneud sain fel y gwnaethom yn y Prosiect Gwneud ychydig o sŵn.

- Cysylltwch bin 0 micro:bit â blaen eich plwg clustffonau, a'r GND â rhan hirach y plwg clustffonau.
- Pan fyddwch yn gwneud sain â'r micro:bit, mae pin 0 yn troi yn allbwn.
- Mae'r rhaglen hon yn chwarae gwahanol donau parod os byddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A neu fotwm B.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- pâr o glustffonau, swnyn neu seinydd a fwyhawyd
- dau gebl clip crocodeil
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newid y tonau, er enghraifft rhoi cynnig ar PRELUDE neu ENTERTAINER Gallwch ddod o hyd i restr o'r holl donau parod y gallwch eu defnyddio yn Python yma.
- Dangos gwahanol luniau, llythrennau, rhifau neu eiriau yn dibynnu ar ba dôn a ddewisoch.
- Gwneud iddo chwarae tôn ar hap os byddwch yn ei ysgwyd.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.