Skip to content

Gweithgaredd

Dolennau Frère Jacques

Canolradd | MakeCode, Python | Pinnau, Sain | Adnabod patrwm, Cyfansoddi, Iteriad, Sain

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Rhaglennu'ch micro:bit i chwarae tôn enwog - neu un o'ch rhai chi.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Cysylltwch glustffonau, neu seinydd wedi'i fwyhau â phinnau 0 a GND ar eich micro:bit i glywed y sain.
  • Mae pin 0 yn gweithio fel allbwn pan rydym yn chwarae cerddoriaeth ar y micro:bit.
  • Mae'r rhaglen hon yn defnyddio nodau cerddorol i chwarae alaw werin Ffrengig enwog. Mae ‘Frère Jacques’ yn ailadrodd pob bar ddwywaith. Gallem raglennu micro:bit i chwarae'r un nodau eto, ond mae'n haws o lawer i ddefnyddio iteriad (a adnabyddir hefyd fel dolen). Mae'r rhaglen hon yn defnyddio dolennau sy'n chwarae pob bar ddwywaith i arbed rhaglennu'r un nodau ddwywaith.
  • Mae adnabod patrymau fel hyn yn rhan o feddwl cyfrifiadol, ffordd o sicrhau bod rhaglenni cyfrifiadurol mor effeithlon â phosibl, gan ddefnyddio'r darn lleiaf o god i gyflawni tasg - neu berfformio darn o gerddoriaeth!
micro:bit wedi'i gysylltu â chlustffonau, erwydd cerddoriaeth yn dangos y 4 nodyn cyntaf o Frère Jacques

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)
  • pâr o glustffonau, swnyn neu seinydd a fwyhawyd
  • dau gebl clip crocodeil

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3
4for x in range(2):
5    music.play(["C4:4", "D4", "E4", "C4"])
6
7for x in range(2):
8    music.play(["E4:4", "F4", "G4:8"])
9

Cam 3: Gwella

  • Cyflymu'r alaw neu ei harafu drwy newid y tempo.
  • Cwblhau'r dôn gyfan. Y nodau ychwanegol fydd eu hangen arnoch yw GAGFEC, CGC ond bydd angen i chi chwarae'r 4 nodyn cyntaf am hanner curiad, nid 1 curiad. Cofiwch ddefnyddio dolennau i wneud eich cod yn fwy effeithlon.
  • Rhaglennu tonau eraill gan ddefnyddio cerddoriaeth ddalen neu greu eich un eich hun.
  • Gallwch ddysgu mwy am sut mae cerddoriaeth micro:bit yn gweithio yn Python yma.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.