Skip to content

Gweithgaredd

Larwm switsh gwasgedd

Uwch | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Pinnau, Radio, Sain | Dewis, Electroneg, Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion, Tonnau radio, Trydan

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Creu larwm tresbaswr di-wifr a fydd yn eich rhybuddio pan fydd rhywun yn camu ar synhwyrydd gwasgedd rydych wedi'i wneud.

Micro:bit synhwyro gyda phin 0 wedi'i gysylltu ag un pad ffoil, pin GND wedi'i gysylltu â phad ffoil arall. Fflap cardfwrdd â ffoil sy'n plygu ac yn cysylltu â'r ddau bad ffoil arall pan fydd rhywun yn camu arno.

Sut mae'n gweithio

  • Fflachio'r rhaglen synhwyro ar micro:bit
  • Gwneud switsh mewnbwn gwasgedd o gardfwrdd a ffoil tun fel yn y llun. Plygu'r switsh a'i roi o dan rỳg neu garped. Efallai bydd angen i chi ychwanegu ychydig o sbwng i gadw'r ddwy ochr ar wahân. Cysylltu'r ddau bad ffoil ar un ochr â phinnau 0 a GND ar y micro:bit synhwyro. Pan fyddwch yn camu arno, bydd y ffoil ar y brig yn cwblhau cylched drydanol, ac yn anfon neges radio 'tresbaswr'.
  • Fflachio rhaglen y larwm ar y micro:bit arall (y larwm) a chysylltu seiniwr neu seinydd â phin 0 a GND os oes un gennych. Pan fydd yn derbyn y neges 'tresbaswr' bydd yn dangos wyneb crac ar y dangosydd LED ac yn canu sain larwm clywadwy. Gwasgu botwmA i glirio'r dangosydd.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit ac o leiaf 1 pecyn batri
  • 2 gebl clip crocodeil
  • ffoil tun, cardfwrdd sgrap, glud, siswrn, sbwng
  • seiniwr, seinydd wedi'i fwyhau neu glustffonau opsiynol a 2 gebl clip crocodeil

Cam 2: Codio

Synhwyrydd / trosglwyddydd:

1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=34)
4radio.on()
5
6while True:
7    if pin0.is_touched():
8        radio.send('intruder')
9

Larwm / derbynnydd:

1from microbit import *
2import music
3import radio
4radio.config(group=34)
5radio.on()
6
7while True:
8    message = radio.receive()
9    if message:
10        if message == 'intruder':
11            display.show(Image.ANGRY)
12            music.play(music.BADDY)
13    if button_a.was_pressed():
14        display.clear()
15

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegu synwyryddion eraill sy'n anfon eu neges eu hunain, e.e. 'ystafell1', 'ystafell2' a gwneud i'r larwm ddangos lle mae'r tresbaswr.
  • Rhoi cynnig ar wahanol ddyluniadau ar gyfer y switsh gwasgedd. Er enghraifft, rhoi pad sbwng ynddo os yw'n cael ei sbarduno'n rhy hawdd.
  • Gallech wneud larwm glaw gan ddefnyddio dau bad ffoil tun yn agos iawn at ei gilydd – os byddant yn gwlychu, byddant yn sbarduno'r larwm. Sicrhau nad ydych yn gwlychu'ch micro:bit er hynny!
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.