Skip to content

Gweithgaredd

Lefel wirod

Canolradd | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad, Sain | Dewis, Gweithredwyr perthynol, Rhesymeg Boolean, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud offeryn ar gyfer sicrhau bod lluniau, silffoedd neu wynebau gweithio'n wastad. Mae seinydd parod y micro:bit newydd yn ei gwneud yn hawdd i wella'ch lefel wirod gydag adborth sain.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i ddefnyddio synhwyrydd y mesurydd cyflymiad i fesur onglau
  • Beth yw 'gogwydd' a 'rhôl'
  • Sut i gyfuno darlleniadau synhwyrydd mewn dau ddimensiwn i ganfod wyneb gwastad

Sut mae'n gweithio

diagram yn dangos gogwydd a rhôl ar y micro:bit
  • Gall mesurydd cyflymiad y micro:bit fesur onglau gwyro mewn dau gyfeiriad, i fyny ac i lawr (gogwydd) ac ochr i ochr (rhôl). Mae'r prosiect hwn yn defnyddio hyn i ddangos pan fydd y micro:bit yn wastad ar y dangosydd LED ac wrth wneud sain, a allai fod yn ddefnyddiol wrth roi llun i fyny neu wneud wyneb gweithio.
  • Mae dolen yn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fesur ongl y micro:bit yn barhaus.
  • Os yw'r mesurydd cyflymiad yn mesur ongl gwyro rhwng +5 a -5 gradd ar gyfer gogwydd yn ogystal â rhôl, mae'n rhaid bod y micro:bit yn weddol wastad. Wedyn, bydd yn dangos tic ar allbwn y dangosydd LED ac yn chwarae tôn gerddorol.
  • I glywed y dôn, cysylltu clustffonau neu seinydd â phin 0 a'r GND, neu os oes gennych micro:bit newydd, byddwch yn ei chlywed ar y seinydd parod.
  • Os yw naill ai'r gogwydd neu'r rhôl y tu allan i'r ystod +5 i -5 gradd, bydd yn dangos croes ar y dangosydd LED ac yn stopio'r sain.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import music
3
4# Uses accelerometer readings in the x and y axis 
5# and also allows the micro:bit to be slightly off-level
6# to make it work better in practice
7while True:
8    if accelerometer.get_x() > -10 and accelerometer.get_x() < 10 and accelerometer.get_y() > -10 and accelerometer.get_y() < 10:
9        display.show(Image.YES)
10        music.play('C5:1')
11        sleep(200)
12    else:
13        display.show(Image.NO)
14

Cam 3: Gwella

  • Ydych chi'n gallu gwneud i'r traw cerddorol newid gan ddibynnu ar yr ongl?
  • Allech godio 'swigen' LED sy'n symud o gwmpas y sgrin fel lefel wirod go iawn?

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.