Skip to content

Gweithgaredd

Tegan synhwyraidd

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad, Seinydd | Dylunio cynnyrch, Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud tegan synhwyraidd sy'n ymateb i symudiad gyda golau a sain.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i ddefnyddio mewnbynnau synhwyrydd mesurydd cyflymiad parod y micro:bit a seiniau mynegiannol newydd fel allbynnau i greu tegan a allai helpu dysgwyr sy'n ymateb yn dda i gael eu hysgogi drwy gyffyrddiad, golau a sain. Chwaraeir gwahanol seiniau a dangosir gwahanol luniau gan ddibynnu ar sut rydych yn ei symud.

Sut mae'n gweithio

  • Mae synhwyrydd mesurydd cyflymiad parod y micro:bit yn mesur grymoedd.
  • Mae'r micro:bit yn defnyddio darlleniadau o'r mesurydd cyflymiad i sbarduno digwyddiadau pan fyddwch yn ei symud mewn gwahanol ffyrdd.
  • Os byddwch yn ysgwyd y micro:bit, bydd yn chwarae sain piffian chwerthin ar allbwn y seinydd parod ac yn dangos gwên ar y dangosydd LED.
  • Mae gwahanol allbynnau eicon a sain yn cael eu sbarduno drwy wahanol symudiadau fel gwyro'r micro:bit i'r chwith a'r dde neu ei roi gyda'r logo yn wynebu i fyny neu i lawr.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit newydd gyda sain (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegu lluniau a seiniau eraill pan fyddwch yn gwasgu botwm A neu B neu'n cyffwrdd â'r logo.
  • Arbrofi gyda gwahanol seiniau mynegiannol megis 'piffian chwerthin', 'hapus' a 'disgleirio'.
  • Ychwanegu animeiddiad neu eich lluniau eich hun ar gyfer pob symudiad.
  • Creu cês neu gynhwysydd ar gyfer y micro:bit a phecyn batri sy'n caniatáu i'r sain ddod allan ac i oleuadau'r dangosydd LED ddisgleirio, a allai wasgaru'r golau LED ychydig o bosibl.
  • Os ydych yn athro neu athrawes, efallai bydd gennych ddiddordeb yn ein gwersi Ystafell ddosbarth synhwyraidd.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.