Skip to content

Gweithgaredd

anifail anwes micro:bit

Canolradd | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Logo cyffwrdd, Mesurydd cyflymiad, Seinydd | Dewis, Iteriad, Newidynnau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Codio eich anifail anwes electronig eich hun a'i addasu i'w bersonoli. Mae seinydd parod y micro:bit newydd yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy o hwyl gyda seiniau mynegiannol newydd.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i ddefnyddio newidynnau a dolenni i wneud amserydd syml.
  • Sut i ddefnyddio dewis i wneud i wahanol ddigwyddiadau ddigwydd ar adegau gwahanol.
  • Tric i'w gwneud iddi ymddangos bod rhaglen micro:bit wedi stopio rhedeg!

Sut mae'n gweithio

  • Dyfeisiwyd anifeiliaid anwes electronig yn Siapan yn yr 1990au a daethant yn degan poblogaidd ledled y byd yn fuan.
  • Maent yn declynnau bach y gallwch eu cadw ar eich cylch allweddi. Dangosir creadur ar ddangosydd syml. Mae'n rhaid i chi ofalu am y creadur, rhyngweithio ag ef drwy wasgu botymau a chwarae gemau syml. Os byddwch yn ei anwybyddu ac na fyddwch yn ei fwydo neu'i lanhau, bydd yn drist, yn camymddwyn neu'n mynd yn sâl.
  • Mae'r cod yn defnyddio newidyn a elwir yn amserydd i gadw llygad am ba mor hir mae'ch anifail anwes wedi'i anwybyddu. Mae dolen am byth yn ychwanegu 1 at yr amserydd bob 1 eiliad (1000 milieiliad).
  • Os bydd yr amserydd yn cyrraedd 20, bydd eich anifail anwes yn dangos wyneb trist ar allbwn y dangosydd LED ac yn gwneud sŵn trist ar allbynnau'r seinydd parod.
  • Os bydd yn cyrraedd 30, bydd eich anifail anwes yn mynd i gysgu.
  • Os bydd yn cyrraedd 40, bydd eich anifail anwes yn gwneud sŵn dirgel ac yn marw. Mae'r cod yn defnyddio bloc 'gosod seinydd parod wedi'i ddiffodd' i atal y seinydd rhag gwneud unrhyw sŵn arall. Mae dolen 'tra bod yn wir' yn sicrhau mai eicon y penglog yn unig sy'n cael ei ddangos ar y dangosydd LED.
  • Ond, bydd eich anifail anwes yn aros yn fyw ac yn hapus os byddwch yn chwarae gydag ef! Tynnu'ch bys dros y logo i'w wneud yn hapus, neu'i ysgwyd i wneud iddo biffian chwerthin. Bydd hyn yn ailosod yr amserydd i 0.
  • Os bydd eich anifail anwes yn marw, gallwch ei atgyfodi drwy wasgu'r botwm ailosod ar gefn eich micro:bit.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit newydd gyda sain (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Arbrofi gyda gwahanol amseroedd ar gyfer pob cam o'i fywyd.
  • Creu eich mynegiannau wyneb eich hun gan ddefnyddio dangosydd LED y micro:bit.
  • Ychwanegu mwy o newidynnau i olrhain pa mor newynog neu fudr yw eich anifail anwes, ac ychwanegu rhyngweithiau newydd i fwydo neu lanhau eich anifail anwes, er enghraifft drwy wasgu botymau neu wneud sŵn uchel mae meicroffon parod y micro:bit newydd yn ei synhwyro.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.