Skip to content

Gweithgaredd

Larwm tun bisgedi

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Synhwyrydd golau | Dewis, Rhif a gwerth lle, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Oes rhywun wedi bod yn eich tun bisgedi? Gallwch raglennu eich BBC micro:bit i weithredu fel larwm i roi gwybod i chi! Byddwch yn dysgu am ddewis, rhesymeg cymharu, a synhwyrydd golau'r micro:bit.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen yn troi sgrîn LED y micro:bit yn synhwyryddgolau.
  • Rhowch eich micro:bit yn y tun rydych chi am ei ddiogelu. Pan agorir y caead, mae'r synhwyrydd golau yn canfod newid yn lefel y golau ac yn sbarduno'r larwm.
  • Mae'r rhaglen yn defnyddio dolen ddiddiwedd i ddal i synhwyro lefel y golau.
  • Defnyddir dewis ('if... else') a rhesymeg gymharu (> 30) fel bod wyneb blin yn ymddangos ar y sgrîn os yw lefel y golau yn uwch na swm penodol; fel arall, mae'n clirio'r sgrîn.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode
  • pecyn batri

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2
3while True:
4    if display.read_light_level() > 30:
5        display.show(Image.ANGRY)
6    else:
7        display.clear()
8

Cam 3: Gwella

  • Addaswch y rhaglen, gan ddileu'r rhan "else" o'r gymhariaeth, fel bod y wyneb blin yn aros ar y sgrîn micro:bit beth bynnag yw lefel y golau fel y gallwch chi gael gwybod a yw rhywun wedi agor eich tun.
  • Ychwanegwch larwm clywadwy gan ddefnyddio blociau o adran gerddoriaeth y golygydd MakeCode.
  • Cyfrwch sawl gwaith mae eich tun wedi cael ei agor drwy gyflwyno newidyn i mewn i'r rhaglen.
  • Os oes gennych ddau micro:bit, defnyddiwch y swyddogaethradio i anfon signal atoch cyn gynted ag y bydd eich tun yn cael ei agor. Cymerwch olwg ar y prosiect larwm golau i ddarganfod sut i wneud hyn.