Skip to content

Gweithgaredd

Jiwcbocs â lefel sain

Canolradd | MakeCode | Botymau, Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad, Sain | Caledwedd a meddalwedd, Mewnbwn/allbwn, Sain

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Mae'r prosiect hwn yn ychwanegu rheolydd lefel sain at jiwcbocs y micro:bit. Mae'n chwarae gwahanol donau os byddwch yn gwasgu botwm A neu B a gallwch hefyd addasu lefel y sain wrth wyro eich micro:bit i'r chwith neu i'r dde.

Sut mae'n gweithio

  • Os byddwch yn defnyddio micro:bit go iawn, cysylltwch y micro:bit â chlustffonau fel hyn:
diagram yn dangos sut i gysylltu clustffonau â micro:bit
  • Cedwir lefel y sain bresennol mewn newidyn a elwir yn volume.
  • gall rhifau lefel sain micro:bit fynd o 0 i 255, felly ar ddechrau'r rhaglen rydym yn gosod lefel y sain rhywle yn y canol, i 128.
  • Mae'r mesurydd cyflymiad yn synhwyro pan fyddwch yn gwyro'r micro:bit i'r chwith a'r dde.
  • Os ydych yn ei wyro i'r chwith, mae'r newidyn lefel sain yn cael ei leihau gan 32. (Dewisom 32 yn hytrach na 1 fel eich bod yn gallu clywed y newid pan fyddwch yn ei wyro unwaith.)
  • Pan fyddwch yn ei wyro i'r dde, mae'r newidyn lefel sain yn cael ei gynyddu gan 32.
  • Rydym yn defnyddio blociau os... wedyn i atal y newidyn lefel sain rhag mynd yn is na 0 neu'n uwch na 255 gan na all lefel sain y micro:bit fynd yn is na 0 neu'n uwch na 255.
  • Mae bloc diderfyn yn parhau i ddiweddaru lefel sain gwirioneddol y micro:bit o'r newidiadau rydych yn eu gwneud i'r newidyn lefel sain pan fyddwch yn ei wyro. Mae hefyd yn diweddaru'r graff bar fel y gallwch weld cynrychiolaeth weledol o osodiad presennol lefel sain.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • os byddwch yn defnyddio micro:bit go iawn, pâr o glustffonau a dau gebl clip crocodeil

Cam 2: Codio

Cam 3: Gwella

  • Rhaglennu eich tonau eich hun.
  • Ychwanegu swyddogaeth tewi pan fyddwch yn gwasgu botymau A+B ar yr un pryd.
  • Addasu rheolydd y lefel sain fel ei fod yn cael ei reoli gan ystumiau eraill megis ysgwyd.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.